MR. OWEN ROBERTS. LIVERMORE, LARIMER COUNTY, COLORADO.
Rhagfyr 2ail, 1884, yn Livermore, Larimer County, Colorado, yn 90 mlwydd oed, Owen Roberts, gynt o Bwlch y Tyno, ger y Bala, Gogledd Cymru.Daeth i'r wlad hon tua 66 neu 67 o flynyddau yn ôl, a bu yn cartrefu am flynyddau yn nghylchoedd Utica, New York.
Tua deunaw mlynedd yn ôl aeth i Nebraska at ei fab Evan, ac arosodd yno naw neu ddeng mlynedd. Dychwelodd wedi hyny i Utica. Tua pedair blynedd yn ôl aeth i Livermore, Colorado, at ei fab Robert. Tarawyd ef gan ergyd o'r parlys ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth.
Cymerodd ei angladd le ar y 4ydd, pryd yr oedd un ar hugaln o'i berthynaaau yn bresenol. Dygwyddiad lled anghyffredin mewn angladd, ond hynod darawiadol, ydoedd, gweled un o'r meibion yn gwasanaetha fel undertaker, a chwech o wyrion yn gweinyddu fel cludyddion (bearers). Gwnaed ychydig sylwadau ar yr amgylchlad oddiar Luc 12;10—"Am hyny byddwch chwithau barod."