MRS. JANE WILLIAMS, PITTSON FERRY, PENNSYLVANIA.
Yn Pittson Ferry, Pennsylvania, Tachwedd 22ain, 1846, Mrs. Jane Williams, gwraig Mr. John Williains, yn 59 mlwydd oed.Merch ydoedd i Thomas a Gwen Jones, plwyf Llandwrog, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Daeth hi a'i phriod ac un mab drosodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1844. Treuliasant y rhan fwyaf o'u tymor wedi hyny yn Danville. Ymfudasant i Pittson 3 wythnos cyn ei thrancedigaeth.
Bu y chwaer hon yn proffesu crefydd Mab Duw am 30 mlynedd. Derbyniwyd hi yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Talysarn gan y Parch. David Griffiths, a chafodd y fraint o harddu ei phroffes a rhodio yn ddidramgwydd i'w achos hyd ddydd ei marwolaeth. Bu Mrs. Williams y rhan fwyaf o'i thymor yn y wlad hon yn analluog i ddyfod i dy Dduw o achos nychdod corphorol. Ei chlefyd oedd y darfodedigaeth. Ond dyoddefodd ei chystudd gyda thawelwch mawr ac ymostyngiad i ewyllys yr Arglwydd. Ymadawodd â'r byd hwn a'i hyder yn gryf yn y Gŵr aeth yn angau i angau ac yn dranc i'r bedd.
Rhoddwyd ei rhan farwol i orwedd mewn bedd ger Pittson. Cyn cychwyn darllenwyd rhan o'r Gair a gweddiwyd gan Daniel Evans.