MR. WILLIAM ROBERTS, EAST STEUBEN, NEW YORK.

Yn East Steuben, New York, Gorphenaf 27ain, 1884, bu farw yr hen frawd didwyll a duwiol William Roberts, yn 76 mlwydd a 2 fis oed.

Mab ydoedd i William Roberts, Glan y Gors, Llanbedrog, a ganwyd ef mewn ardal fechan o'r euw Y Graig Wen yn sir Gaernarfon. Enw morwynol ei briod oedd Jane Jones. Yr oedd y brawd anwyl hwn yr aelod ffyddlon er's rhai blynyddau yn French Road, lle yr ymaelododd ar ei ddyfodiod i'r ardal. Bu yn byw am ychedig yn nghyffiniau yr ardal hon blynyddau lawr yn ôl, ond symudodd i gymdogaeth Copenhagen, ac felly yr oedd yn cyd addoli â'r Saeson; ac yno y treuiodd y rhan helaethaf o'r tymor y bu yn America.

Wedi colli ei briod anwyl a hoff, daeth yn ôl i'r cymydogaethau hyn, gan wneyd ei gartref gyda ei ferch, Mrs. Daniel W. Jones.

Addefa pawb sydd yn ei gofio nad oedd yn hawdd cael ei ffyddlonach nai gywirach gydag achos yr Arglwydd. Byddai bob amser yn brydlon yn yr addoliad, a byddai bob amser yn grando fel ag i fod yn galondid i'r weinidogaeth, ac nid yn faich wrth ei godre. Da fyddai i broffeswyr crefydd gofio fod gwrandawiad sur, cuchiog, a phendrwm, llawer un yn troi min y weinidogaeth, a'i phylu nes ei gwneyd yn gwbl aneffeithiol. Byddai y brawd hwn yn gwrando fel ag i galonogi y gwan, ar ofnus, ar anghyfarwydd. Colled nas gellir ei phrisio ydyw colli gwrandawr da o'r gynulleidfa. Mynych y clywir gan weinedogion fod ambell fan yn lle caled i bregethu ynddo, a phriodolir hyny yn aml i anmherffeithrwydd adseiniol yr adeilad, a dichon mai felly y mae mewn rhai manau, ond yn fwy mynych y mae i'w briodoli i ystum anfoneddigaidd a hwyrdrwm y gwrandawyr, y rhai fel crwban y môr sydd yn tynu ei hunain i'w cragenau, gan benderfynu na cha dim o saethau y weinidogaeth eu teimlo ganddynt hwy.

Frodyr y mae eisieu gwrando yn naturiol, yn ogystal a thraddodi yn naturiol; ac y mae eisieu paratoi i wrando, yn ogystal a pharatoi i draddodi; ac y mae eisieu derbyn y gwirionedd yn siriol, yn ogystal a'i gyfranu mewn cariad.

Peth arall am y brawd hwn, yr oedd yn weddiwr effeithiol. Nid yn gymaint yn nhrefniant ei ymadroddion gan ddangos cywreinrwydd darluniol a phortreadol, ond yn nhaerineb ei ddeisyfiadau, gan amlygu ei fod yn teimlo angen am yr hyn a ofynai gan ei Dad Nefol. Nid ydym yn meddwl ei fod yr arfer gweddio er mwyn lladd amser, nac yn cyfarwyddo yr Hollalluog er mwyn dangos ei allu i'r rhai a fyddent yn gwrando, ond ai at yr orsedd, a chyfaddefai ei anheilyngdod, a thywalltai ei galon mewn dymuniadau taerion yn ddirodres a diaddurn gerbron ei Dad, nes y teimlid fod y nefoedd a'r ddaear yn bur agos i'w gilydd ar y pryd. Byddai gwlith nefolaidd yn disgyn yn aml ar y gwrandawyr pan y byddai yr hen frawd hwn yn anerch gorsedd gras.

Yr Arglwydd a gyfodo yn ei eglwys lawer i gymeryd ei le o rai fyddo yn meddu ar yspryd y gwas da a ffyddlon hwn. Ar y 29ain ymgynullndd tyrfa fawr i dŷ ei fab ynghyfraith, Mr. D. W. Jones, yn Madryn, lle y cynhaliwyd y gwasanaeth crefyddol ac y pregethwyd gan y Parch. E. Davies a'r ysgrifenydd. Yna awd a'r hyn oedd farwol i'w osod i orwedd wrth ochr ei briod yn Copenhagen. Heddwch fyddo i'w lwch, a bendith ar ei hiliogaeth.
E. G. WILLIAMS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1885.