MRS. ELLEN THOMAS. FAIR HAVEN, VERMONT.
Mawrth 10fed, 1884, yn Fair Haven, Vermont, ar ôl cael pedwar mis o gystudd, Ellen Thomas, anwyl briod William K. Thomas, yn 63 mlwydd oed.Yr oedd yr hen chwaer hon wedi ei geni yn Bethesda, Arfon. Bu hi a'i phlant yn cartrefu am flynyddau yn West Bangor, Pennsylvania. Symudasant oddiyno i Slatington, yn yr un dalaeth; oddiyno y daethant i'r ardal hon flynyddau yn ôl. Mae iddi ddau frawd yn byw yn Bangor, John R. Hughes a David R. Hughes.
Bu y chwaer hon yn proffesu crefydd am amser maith, ac yr oedd hyny yn troi yn elw iddi pan ddaeth galwad i ymadael ar fuchedd hon. Gadawodd briod oedranus a methiantus yn weddw, a dwy ferch mewn oed.