MR. OWEN J. THOMAS. 58 WHITESBOBO STREET, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 13eg, 1884, yn 64 mlwydd oed, Owen J. Thomas, saer maen, 58 Whitesboro Street, Utica, New York.

Claddwyd ef yn anrhydeddus y dydd Sadwrn canlynol, y Parch. R. Gwesyn Jones, D. D., yn gweinyddu.

Brodor ydoedd o Llaniestyn, ger Cae Fadryn, Lleyn.

Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni pan yn ieuanc, a threuliodd ran fawr o'i oes yn nghylchoedd Remsen. Yr oedd yn aelod dichlynaldd gyda'r Annibynwyr yn Bethesda.

Y Drych ~ Tachwedd 20fed 1884.


MR. OWEN J. THOMAS. 58 WHITESBOBO STREET, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mr. Owen Thomas, Whitesboro Street, Utica.

Yr oedd y cyfaill hwn yn un o ffyddloniaid Israel.

Er fod ei anadl yn fyr, a'i iechyd bob amser braidd yn wanaidd, eto yr oedd yn hoffi mynychu moddion gras bob tro y gallai. Yr oedd yn gynes a thaer iawn mewn gweddi.

Yr oedd yn bresenol yn Bethania, Utica ac yn gweddio yn gyhoeddus nos Lun cyntaf yn mis Tachwedd. Cymerwyd ef yn glaf y noson hono. Rywbryd yn y nos cwynai ei fod yn oer iawn. Gwnaeth Mrs. Thomas ei goreu i'w gynhesu. Tua'r boreu cyrchwyd meddyg, ond er pob ymdrech cryfhaodd ei glefyd - y pneumonia - fel y bu farw yn mhen naw diwrnod, wedi dyoddef yn galed iawn.

Claddwyd ef yn mynwent Salem, Deerfield.

Pregethwyd yn y tŷ cyn cychwyn gan ei weinidog, y Parch. R. G. Jones. D. D.

Yr oedd Mr. Thomas yn enedigol o Laniestyn, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oeddynt John a Catherine. Mae brawd iddo, Hugh Thomas, yn byw yn Remsen yn bresenol.

Derbyniwyd ef yn aelod gan y Parch. W. D. Williams, yn adeg y diwygiad mawr yn Steuben. Yr oedd yn ffyddlon a zelog iawn y pryd hwnw, yn mynychu pob cyfarfod, a pharhaodd yn grefyddwr cynes drwy ei oes.

Bu yn briod ddwy waith. Mae iddo ddwy ferch yn fyw, un o'r wraig gyntaf yn Sioux Falls, Dakota, a'r hon y bu yn ymweled dros amryw o wythnosau yr haf diwethaf. Priododd â'r ail wraig yn Marcy, tuag ugain mlynedd yn ôl. Mae ei ferch o honi hi gartref gyda'i mham, a'r ddwy yn mwynhau yn hwelaeth o gysuron crefydd yn eu hamddifadrwydd o briod caredig a thad tyner. Credwn y bydd i Dduw fod yn ôl ei addewid iddynt.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1885.