MR. WILLIAM W. THOMAS, CAMBRIA, WISCONSIN.

Awst 23 1884, yn Cambria, Wisconsin, ar ôl amryw fisoedd o nychdod, bu farw yr hen bererin ffyddlon Mr. Williain W. Thomas, Bangor, Wisconsin, yn 75 mlwydd a 9 mis oed.

Aeth Mr. a Mrs. Thomas i Cambria yn mis Mehefin diweddaf, i ymweled a'u plant, a chyda y bwriad o fwynhau y Gymanfa oedd i gael ei chynal yn y lle hwnw; ond buan iawn ar ôl i'r Gymanfa fach ar y ddaear fyned heibio dechreuodd pabell bridd yr hen frawd Thomas ddwyn arwyddion amlwg ei fod yn prysur deithio tua'r Jerusalem nefol, i'r Gymanfa fawr a gynelir gan y rhai cyntaf anedig ar fynydd Seion, ac ar y dydd a nodwyd cyrhaeddodd ben y daith.

Dygwyd yr hyn oedd farwol o hono i Bangor, a daeth tyrfa fawr a pharchus yn nghyd i'w anfon i dŷ ei hir gartref, ac yn nghanol galar cyffredinol a hiraeth dwys, rhoddwyd ei gorph gwael i orwedd yn y bedd hyd yr adeg y bydd yn "rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb."

Cyflawnwyd y gwasanaeth angladdol gan y Parchn. Robert T. Roberts, H. M. Pugh, a John J. Vaughan.

Ganwyd Mr. Thomas yn mhlwyf Llangwnadl, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ei rieni oeddynt Thomas a Laura Williams, Tyddyn-ffynon.

Ymunodd mewn priodas â Miss Anne Hughes, merch Hugh a Margaret Roberts, Tyddynffili, yn mhlwyf Llanor, a pharhaodd yr undeb yn un cysurus a dedwydd am dros 48 o flynyddau, a bu iddynt 10 o blant, ond yr oedd pedwar o honynt wedi rhagflaenu eu tad i'r byd tragywyddol, a gadawodd y gweddill mewn cylchoedd pwysig a sefyllfaoedd cysurus ar y ddaear, er wedi eu gwasgaru yn lled bell oddiwrth eu gilydd.

Mae Mr. Hugh W. Thomas a Mrs. Evan Lloyd yn Cambria, a Mrs. Edward S. Morris yn Milwaukee, Wisconsin; Mr. William W. Thomas yn Winona, a Mr. John Thomas yn Minneapolis, Minnesota; a Mr. Robert Thomas yn Blunt, Dakota.

Yn fuan ar ôl priodi aeth yr ymadawedig a'i briod i fyw i dy capel Cefnywaen, a thra yn aros yno daethant yn bersonol adnabyddus a llu mawr o weinidogion a phregethwyr y T. C, a mynych y soniai Mr. Thomas am yr amser dedwydd ac adeiladol a dreuliodd ef a'i briod yn nghymdeithas y prophwydi a'r gwyr enwog gynt.

Daeth y teulu i'r wlad hon tuag un mlynedd a deugain yn ôl, a sefydlasant am dair blynedd ar ddeg yn Nhalaeth New York, sef wyth mlynedd yn Remsen a phump yn Bridgewater, ac yn y lle diweddaf y cafodd gwrthddrych hyn o nodiadau ei alw a'i neillduo gyntaf i'r swydd ddiaconaidd. Symudodd y teulu i Ddyffryn LaCrosse tuag wyth mlynedd ar hugain yn ôl, pan oedd y wlad yn gydmarol newydd, y trigolion yn anaml, a'r eglwysi yn weiniaid.

Yr oedd Mr. Thomas wedi ei fendithio a chyfansoddiad corphorol gwydn, llawn o yni, a hollol rydd oddiwrth syrthni a diogi, a thrwy fod yn ddiwyd ac ymdrechgar, llwyddodd mewn ffordd gyfiawn a gonest i gasglu swm da o eiddo, ac yr oedd hyny wedi ei alluogi i ymryddhau oddiwrth lafur amaethyddol ers llawer o flynyddau, ac i ddyfod i fyw a gwneyd ei gartref mewn modd cysurus yn mhentref Bangor.

Collwyd priod a thad tyner a gofalus o'r teulu, aelod a swyddog ffyddlon o'r eglwys, a dyn cywir a gonest o'r ardal; ond y mae ein colled ni yn elw mawr ac yn enill an-nhraethadwy iddo ef. Yr Arglwydd, yn ei breswylfa sanctaidd, a fyddo yn farnwr ac yn arweinydd i'r weddw y rhan sydd yn ôl o daith yr anialwch, a bendithier y plant a chyfran helaeth o ysbryd eu tad, fel y byddont yn ffyddlon a llafurus yn nghwinllan yr Iesu.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1885.


MR. WILLIAM W. THOMAS, CAMBRIA, WISCONSIN.

Ganwyd William, mab Thomas a Laura Williams yn Tyddyn Ffynnon, Llangwnadl yn 1808.

Priododd gyda Miss Ann Hughes, merch Hugh a Margaret Roberts, Tyddynffili ym mhlwyf Llannor yn 1836.

Ymfudo i America yn 1843 a byw yn Remsen am gyfnod, ac wedyn ymfudo i'r gorllewin, i Ddyffryn LaCrosse yn nhalaith Winsconsin.

Bu William W Thomas farw ar Awst 25 1884 ac fe gafodd ei gladdu ym mynwent Fairview yn Bangor, LaCrosse, Wisconsin.

Bu Ann Thomas farw yn Cambria, Wisconsin ar Mai 23 1891.

Glyn Roberts ~ Awst 2021.