MR. EVAN WILLIAMS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Merch Robert Sion Evan, Tir Rhos, Llangwnadl.Wedi cael ei bedyddio yng nghapel Penlan, Pwllheli ar 9/3/1799. Phebe of Robert and Jane Jones, Bryncroes, Shopkeeper.
Phebe wedi priodi Evan Williams, yn Eglwys Llangwnadl ar 12/11/1824.
Byw yn Ty Croes Bach, Rhiw.
Ymfudo i'r America ar fwrdd y llong St Lawrence o Lerpwl, cyrraedd Efrog Newydd ar 7/9/1840 ar ol cael mordaith stormus. Ar y rhestr teithwyr gellir gweld:-
Evan Williams. 40. Ffermwr.
Phebe Williams. 40.
Jane. 13.
William. 15.
Margaret. 11.
Solomon. 6.
Ann. 3.
Ganwyd dwy ferch arall iddynt yn America, Elizabeth yn 1841 a Laura yn 1843.
Ar ol cyrraedd America, ffermio yn ardal Steuben, wedyn symyd i Rutland yn Swydd Jefferson.
Gwilym ap Gwilym, Lleyn wedi sgwenu can am y teulu.
Anerchiad Gwilym at Gwilym Lleyn, neu William Williams, Tir y Rhos at ei berthnasau yn yr America.
Yn ei gan mae yn enwi'r teulu i gyd.
Rwyf yn cyfeirio'r ddalen hon,
O'r bron at modryb Phebe,
Ynghyd a'i theulu hawddgar iawn,
Yn llawn fe wnaf eu henwi.
Sef Evan hoff a William fwyn,
Fy nghwyn sydd am eich gweled,
A Jane a Marg'ret fwynaidd lon,
A Salmon gaddo nodded.
Eliza bach ac hefyd Ann,
Eu rhan hwy fyddo'r Iesu,
A Laura bach yr eneth wiw,
Ar hon gwnaed Duw deyrnasu.
Rwy'n cofio at fy modryb Ann,
Y cryf a'r gwan o'i theulu,
A'm modryb Laura a'i theulu oll,
Heb goll fo'n ymdawelu.
Elizabeth, chwaer Phebe oedd mam Gwilym ap Gwilym, Lleyn. Hefyd chwiorydd eraill oedd "modryb Ann" oedd wedi priodi Robert Charles a "modryb Laura" oedd wedi priodi Griffith Humphrey.
Bu Phebe farw yn 1882 yn 82 oed.
Bu Evan farw yn 1884 yn 83 oed.
Mae'r ddau, ynghyd a Jane 1823 - 1893 a Solomon 1835 - 1905 wedi eu claddu ym mynwent Capel Bethel, Remsen.
Glyn Roberts ~ Hydref 2021.
MR. EVAN WILLIAMS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Rhagfyr 30ain, 1884, yn South Rutland, Jefferson County, New York, ar ôl wythnos o gystudd, Evan Williams, yn ei 87 mlwydd oed. Cafodd ergyd trwm o'r parlys, fel na bu yn alluog i siarad gair am y pum' diwrnod diweddaf o'i oes. Ond cafodd bob ymgeledd ag oedd yn bosibl gan ei fab a'i ferch, Solomon a Jane Williams, y rhai oeddynt yn byw gydag ef.Ganwyd ef yn Nghymru yn y flwyddyn 1798. Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon o le a elwir Nefyn, yn sir Gaernarfon, yn 1840, ac ymsefydlasant yn ardal Bethel, New. York. Buont hefyd yn byw am rai blynyddau yn Steuben, a Turin, Lewis County. Am yr ugain mlynedd diweddaf buont yn byw yn South Rutland, Jefferson County, New York.
Ionawr 1af, 1885, cludwyd ei weddillion marwol i fynwent Bethel, lle y claddesid ei anwyl briod oddeutu dwy flynedd yn ôl. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parch. E. Davies.
Yr oedd Evan Williams yn ddyn hynaws, yn gymydog caredig, yn briod ffyddlawn, ac yn dad tyner galon a gofalus. Bu yn cyson fynychu moddion gras ar hyd ei oes hyd y byddai cyfleusdra yn caniatau. Bu yn ddeiliad ffyddlon o'r Ysgol Sabbothol, a darllenai lawer ar y Beibl a llyfrau da eraill; ac yr oedd ganddo barch i ordinhadau crefydd.
Bu ef a'i briod yn ffyddlon am lawer o flynyddoedd i ddyfod i'r Gymanfa Flynyddol yn Oneida, pan oeddynt yn byw yn rhy bell i gael moddion Cymreig. Clywsom ei fod yn awyddus iawn am gael dyfod i Bethel i gysylltu ei hunan â phobl yr Arglwydd trwy ymuno a'r eglwys. Bu farw cyn cael hyny; ond gobeithiwn ei fod wedi cyflwyno ei hunan i'r Gwaredwr, yr Hwn nis bwria ymaith yr hwn a ddel ato.