MRS. JANE R. WILLIAMS. RACINE, WISCONSIN.
Rhagfyr 5ed,1884, yn Racine, Wisconsin, yn 90 mlwydd oed, Mrs. Jane R. Williams. Daeth i'r wlad hon yn 1841, o Leyn, Sir Gaernarfon, ac ymsefydlodd yn Remsen, New York, ac yn 1854 symudodd i Racine. Yn mhen dwy flynedd ar ôl hyn aeth yn ôl i fyw ar ei ffarm yn Floyd, New York, ac yn 1858 symudodd i Racine yn ôl, lle y bu hyd ddydd ei marwolaeth.Bu yn briod ddwy waith. Bu farw William Jones, ei gŵr cyntaf, a thad y Capteniaid Hugh a John Jones, o'r dref hon, yn 1827. Yn 1844 ymbriododd â Richard Williams, a bu yntau farw rai blynyddoedd o'i blaen.
Ymddengys iddi ymuno a chrefydd tua'r adeg y bu ei gŵr cyntaf farw, a dilynodd hi yn ffyddlawn am 57 o flynyddoedd. Yr oedd Mrs. Williams yn onest a ffyddlawn iawn gyda chrefydd. Cysondeb ydoedd un o brif elfenau ei bywyd crefyddol. Yr ydoedd yn caru Gair Duw, ac yn ei fawrhau uwchlaw pob peth arall. Yr oedd wedi darllen llawer ar y Beibl yn ei hoes faith a gwastad. Nid oedd neb yn amheu ei chrefydd. Caniatai pawb ar ddiwrnod ei hangladd i'r gweinidog ddweyd ei bod wedi myned i'r nefoedd. Nid oedd gan ei chydnabod un lle arall i'w rhoddi. Gwnaeth yr ysgrifenydd ychydig o sylwadau angladdol ar ei hol y nos Sabboth dilynol.
JOSEPH ROBERTS.