MRS. JANE WILLIAMS, KINGSTON, PENNSYLVANIA.
Ehrill 1af, 1884, yn Kingston, Pennsylvania, Mrs. Jane Williams, priod Mr. John Williams, diweddar o ardal Talysarn, Gogledd Cymru, yn 34 mlwydd oed.Daethant i Kingston yn Medi, 1863. Yr oedd Mrs. Williams yn ferch i Thomas a Mary Humphreys, Tanybryniau, ger Penygroes, Llanllyfni. Yr oedd ei marwolaeth yn sydyn ac annysgwylladwy. Methodd wella wedi geni ei baban, yr hwn oedd blentyn marw. Yr oedd iddi air da gan bawb a'i hadwaenai, ac yr oedd yn enill cyfeillion yn gyflym.
Dangoswyd cydymdeimlad dwys â'r priod galarus gan dyrfa fawr o gyfeillion a chan eglwys yr Annibynwyr, lle yr oeddynt yu aelodau ffyddlon, a gwasanaethwyd yn yr angladd, Ebrill 3ydd, gan y Parch. T. C. Edwards (Cynonfardd). Pregethodd oddiwrth Ioan xiv. 1, 1. Claddwyd hi yn mynwent brydfeth Fort Fort, ar lan afon Sasquehana. Heddwch i'w llwch, a bendith ar y byw.