MR. JOHN J. WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Medi 13eg, 1884, yn Bangor, Pennsylvania, John J. Williams, yn 49 mlwydd oed, o'r clwyf melyn.Ganwyd y trancedig yn Llys Llanddeiniolen, Gogledd Cymru. Daeth ef a'i briod a'u dwy eneth i'r wlad hon dair blynedd ar ddeg i Gorphenaf diweddaf. Y mae dwy chwaer iddo yn fyw, un yn Middle Granville, New York, a'r llall yn yr Hen Wlad; hefyd y mae brawd iddo yn Llys, sef Humphrey Jones. Cyfarfu dau frawd iddo a damweiniau angeuol yn Slatington, Pa., set William a Thomas Jones, y Llys.
Bu John J. Williams mewn poenau enfawr am yn agos i haner blwyddyn. Er iddo gael mynediad i Bethlehem Hospital am iachad, troes pob dyfais feddygol yn fethiant hollol. Pan ddywedodd ei feddyg wrtho nad oedd modd ei wella, ni frawychodd, ond yn hytrach fe'i cymerodd mor dawel a'r oen.
Mis Mai diweddaf yr oedd yn Nghynadledd y Gwir Iforiaid, yn Utica, dros y Gyfrinfa hon. Er ei fod yn wael y pryd hwnw anturiodd yno, gan dybied y gallasai gael iachad gan ryw feddyg ar ei daith. Yr oedd yn Ifor o'r iawn ryw; hefyd yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r M. C. yn y lle hwn. Gadawodd dystiolaeth ei fod yn ymddiried ei enaid i'w Dad nefol.
Gwasanaethodd y Parch. John Williams yn ei angladd; hefyd troes y Gwir Iforiaid allan fel un gŵr, i dalu y gymwynas olaf i'w hanwyl frawd.
Y mae yma weddw a dwy ferch wedi eu gadael i alaru ar ei ôl. "Am hyny byddwn ninau barod." Heddwch i'w lwch.