MR. JOHN R. WILLIAMS. FREEDOM, CATTARAUGUS COUNTY, NEW YORK.

Hydref 5ed, 1884, yn Freedom, Cattaraugus County, New York, yn 18 mlwydd a 4 mis oed, John R. Williams. Mab ydoedd yr ymadawedig i Mr. a Mrs. R. J. Williams, o'r lle uchod.

Ymfudodd ef gyda'i rienl i'r wlad hon oddeutu dwy flynedd yn ôl o Penygroes, Llanllyfni, Gogledd Cymru. Am yspaid byr ymsefydlasant yn Pennsylvania; ond yn fuan wedi cyraedd yno gorfodwyd hwynt fel teulu i yfed yn helaeth o ddyfroedd chwerwon profedigaeth, trwy golli dwy eneth - chwiorydd i'r ymadawedig. Nid hir y buont yno, eithr symudasant i Cattaraugus, lle y mae i Mrs. Williams dair chwaer yn byw. Nid oedd iechyd John yn gryf pan yn gadael Cymru, ac ni fu y cyfnewidiad yn un lles i'w iechyd; ond bu y profedigaethau a nodwyd yn ormod o friw i'w deimlad tyner, a buan y canfyddwyd fod arwyddion ychwanegol o adfeiliad yn gwneyd eu hymddangosiad yn ei natur.

Buasai yn rhyfedd genym feddwl flwyddyn yn ôl y parhai llusern bywyd i losgi yn ei gorff gwanaidd mor hir, gan mor wywedig yr edrychal. Ond er ei holl gystudd a'i wendid, dyoddefodd y cwbl yn dawel hyd y diwedd, ac ar y Sabboth, y 5ed o Hydref, ehedodd ei ysbryd ymaith at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef, i ddechreu ar Sabboth tragwyddol mewn gwlad lle na ddywed neb o'i phreswylwyr "Claf ydwyf." Mae ei le yn wag yn y teulu, ei le yn wag yn yr eglwys, ei le yn wag yn yr Yagol Sabbothol, a'i le yn wag yn y cyfarfod canu; ond mae genym le cryf i gredu, fel ffrwyth ei fywyd duwiol, fod el le yn y nefoeld yn cael el lanw, ac yntau yn gwisgo y goron yno. Heddwch i'w lwch.

Nid marw wnaeth John Williams,
Na, dim ond dechreu byw,
Mewn lle nad oes marwolaeth
Na phechod o un rhyw;
Lle nad yw afon angeu,
Na'r gwyntoedd oerion erch,
I wanu'r galon ddynol
Gan ddryllio rhwymau serch.
Nid marw yw John Williams,
Na, na, mae'n awr yn fyw,
Yn moli gyda'r seintiau
Yn nghwmnl'r Oen a Duw;
Yn chwareu'r aur delynau,
A'r palmwydd yn ei law,
'Rol cyraedd yn ddiangol
Ac iach i'r ochr draw.
J. M. HUGHES.

Y Drych ~ Hydref 30ain 1884.