MRS. MARGARET WILLIAMS, CALEDONIA, PORTAGE, WISCONSIN.

lonawr 23ain, 1884, yn Caledonia, ger Portage City, Wisconsin, yr hen fam barchus Mrs. Margaret Williams, yr hon oedd yn 73 mlwydd oed er Mai diweddaf.

Ei hafiechyd oedd y cancer. Bu yn briod a'r diweddar David Williams, Fachwen, ger Dinorwlg, Sir Gaernarfon, yr hwn a fu farw Mai, 1863. Adnabyddid Mrs. Williams yn adeg ei morwyndod wrth yr enw Margaret, Braichyriffi.

Ymfudodd gyda'i phriod a'i phlant o Gymru i'r wlad hon yn 1845. Yn niwedd ei gyrfa ddaearoi dyoddefodd yn dawel gystudd maith a phoenus. Gweddiai lawer am iachawdwriaeth ei phlant, a byddai yn dda i lawer mam ei hefelychu yn hyny.
W. AP. WILLIAMS.

Y Drych ~ Chwefror 28ain 1884.