MISS. MARY WILLIAMS. RACINE, WISCONSIN.
Gorphenaf 14eg, 1884, yn Racine, Wis., yn 60 mlwydd oed, o'r Bright's disease of the kidneys, Miss Mary Williams.Daeth yr ymadawedlg i'r wlad hon o Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru, tua'r flwyddyn 1848. Bu yn aros tua Boston am bedair blynedd; yna symudodd i'r dref hon tua 32 mlynedd yn ôl, a bu yn cadw tŷ ac yn ngwasanaeth H. S. Durand, Ysw., yr holl flynyddoedd hyn. Yno y bu fyw ac yno y bu farw, ac oddiyno y cafodd giaddedigaeth barchus.
Merch ydoedd i un o'r enw Samuel Williams, yr hwn a fu yn gwasanaethu fel diacon gyda'r T. C. yn Penacarneddi, Bethesda. Cafodd fagwraeth grefyddol pan yn ieuanc, a pharhaodd yn ffydol iawn hyd angau.
J ROBERTS.