MISS MARY WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 10fed, 1884, yn Utica, New York, Mary Williams, yn 28 mlwydd a 6 mis oed, ar ôl dyoddef cystudd am tua mis dan y typhoid malaria.Merch ydoedd i BenjamIn a Sarah Williams, Bethel, Arfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn nghyd a'i chwaer oddeutu blwyddyn yn ôl. Ar y 12fed claddwyd hi yn Forest Hill Cemetery, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. William Roberts, D. D., yn Gymraeg, a'r Parch. D. C. Biglow yn Saesneg. Yr oedd yn foneddiges dawel a phrydferth, hoffus gan bawb a'i hadwaenai, ac yn aelod ffyddlon gyda'r T. C. yn y lle uchod. Bu farw yn dawel a'i phwys ar ei hanwylyd Iesu.
Gadawodd dad a chwaer yn yr Hen Wlad, yn nghyd a chwaer a dau frawd yn y wlad hon, a llawer o garedigion mynwesol i alaru ar ei hol. Bydded i'r Arglwydd fod yn ddyddanydd ac yn arweinydd iddynt oll.
Yn sawyr duwioldeb y tyfodd o'i mebyd,
A gwreiddiodd yn isel yn naear y ffydd,
Fel cangen ireiddiol trwy stormydd temtasiwn,
Heb blygu i 'run awel, fe ddaliodd ei dydd;
Fel benyw rinweddol yn ofni yr Arglwydd,
Gan bawb y'i hadwaenid, un serchog a chall,
Per ffrwythau duwioldeb trwy'i buchedd a welid,
Ei phroffes a gadwodd heb gwmwl na phall.
Ei hamser a brynodd, defnyddiodd ei horiau,
I wledda ar feusydd toreithiog y Gair,
Ond gwywodd fel blodyn tra'n dechreu ymagor,
Fe'i cwympwyd o'i thegwch yn ugain a thair;
Rhy oeraidd i Mary fu'r awel ddaearol,
Daeth angeu yn sydyn gan newid ei gwedd,
Mae heddyw mewn nwyfiant yn dechreu ei bywyd,
Yn nghwmni Seraphiaid yn ninas yr hedd.
AP LLYFNWY.