MR. RICHARD B. WILLIAMS. QUINCY, MASSACHUSETTS.
Rhagfyr 22ain, 1884, yn Quincy, Massachusetts, Richard B. Williams yn 26 mlwydd oed, o'r typhoid fever.Genedigoi ydoedd o Bethel, Arfon, Gogledd Cymru, a mab i Benjamin a Sarah Williams. Daeth i'r wlad hon oddeutu chwe blynedd yn ôl, a sefydlodd dros ychydig yn Steuben, Oneida County, i weithio ar ffarm. Wedi hyny daeth i Utica, lle dysgodd ei grefft fel stone cutter. Ymadawodd i Quincy yn Mehefin diweddaf, lle yr ydoedd bedd yn ei aros.
Yr ydoedd yn un o'r bechgyn ieuauc mwyaf hoffus gan bawb a'i hadwaenai; a hyny ar gyfrif ei ddystawrwydd a'i gallineb. Ni byddai un amser yn dweyd yr hyn a allai ei hebgor mewn cysylltiad â neb na dim. Meddai farn bur gywir am bob peth ac yr oedd o natur lawen, ac yn dra ymchwilgar ac egniol am wybodaeth. Yr oedd bob amser yn bur ffyddlon gyda moddion gras.
Bu ei chwaer farw yn y ddinas hon, a brawd yn yr hen Wlad yn ystod y pum' mis diweddaf. Bydded i'r Arglwydd fod yn gymorth i'w dad a'i frawd. a'i chwiorydd. Mae Cymry Quincy yn deilwng o ddiolchgarwch diffuant am eu caredigrwydd iddo yn ystod ei salwch.