MR. WILLIAM WILLIAMS. WEST PAWLET, VERMONT.
Mehefin 11eg, 1884, yn West Pawlet, Vermont, William Williams, yn 29 mlwydd oed, o'r typhoid pneumonia.Genedigol ydoedd o ardal Llanllyfnl, Gogledd Cymru. Pan oedd ef ond plentyn dwy flwydd oed cafodd ei dad ei ladd yn chwarel Dorothea. Yr oedd yn un o'r chwech hyny gawsant eu claddu o dan y cwymp mawr hwnw tua 27 mlynedd yn ôl. Pan yn naw mlwydd oed symudodd gyda'i fam i Ffestiniog. Yno yr ymbriododd â Margaret, merch i William ac Ann Williams, Beudy Mawr, Tanygrisiau.
Ers ychydig dros flwyddyn yn ôl daethant drosodd i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn y lle hwn.
Gadawodd weddw a thri o blant bach mewn gwlad estronol i alaru ar ôl tad tyner a phriod ffyddlon. Yn ystod yr amser byr y bu yma; enillodd iddo ei hun enw gwell na chyfoeth lawer. Yr oedd yn aelod gweithgar a ffyddlon gyda'r Methodlstiald, a thystiai pawb a'i hadwaenai mai un o gedyrn Israel ydoedd, a'i fod yn gweithio allan ei iachawdwriaeth yn ei fuchedd a'i ymarweddiad dysglaer a dichlynaidd. Teimla yr eglwys ei bod wedi colli un oedd a'i ysgwydd yn dyn o dan arch Duw; a'r ysgol Sabbothol â gollodd arolygwr doeth a gofalus. Ond ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd - troes ei dduwioldeb yn elw mawr iddo. Gwiriwyd y gair hwnw yn arbenig gyda'n brawd - "Ni frysia yr hwn a gredo." Fel yr oedd yn llithro yn araf i lawr y glyn, teimlal fod y breichiau tragwyddol odditano.
Boreu y diwrnod y bu farw dywedodd ei fod yn myned i ddechreu ar Sabboth tragywyddol mewn gogoniant; a phan ydoedd yn nghanol y rhyferthau mawr, sibrydai rai pethau aneglur, ond dywedodd hyn mewn llals clir - "Dyma fi yn dyfod, Iesu mawr; cynal fi am ychydig bach; Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd." Ac felly hunodd yn dawel ar fynwes ei anwyl Geidwad.
Y dydd Iau canlynol hebryngwyd ei ran farwol i gladdfa yr ardal, sef y White Church Cemetery. Gweinyddwyd yn y tŷ, yn y capel ac wrth y bedd gan y Parch. D. O'Brien Owen. Duw fyddo yn llon'd ei addewid i'r weddw a'r plant bach amddifaid. Deulu hoff, sychwch eich dagrau, ceir esboniad ar droion dyrys y daith ryw ddiwrnod. Mae ef o ran yr ysbryd uwchlaw pob drygau a gofidiau; ae o ran ei gorff yn y dyffryn, "Lle ni chlywir dim o swn trafferthion byd."
Wel, cwsg fy nghyfaill hoffus cu,
Nid yw y bedd i ti
Ond gwely clyd gyneswyd gan
Yr hwn fu ar Galfari;
Daw boreu pan ddeffroi'r dy ran
Sy'n wan yn llwoh y bedd,
Ac mewn anfarwol nefol nerth
Bydd fyw mewn bythol hedd.
G. T. ROBERTS.