MR. WILLIAM T. WILLIAMS, RACINE, WISCONSIN.
Hydref 22ain, 1884, yn Racine, Wisconsin, o'r darfodedigaeth, Mr. William T. Jones.Genedigol ydoedd o Benmachno, Gogledd Cymru. Gadawodd Gymru yn 1856, ac ymsefydlodd yn Racine y flwyddyn hono.
Ymunodd â chrefydd yn Nant y Rhiw, ger Llanrwst, pan nad oedd ond cymharol ieuanc. Bu yn aelod ffyddlon o'r eglwys Gynulleidfaol yn Racine. Perchid ef gan bawb fel dyn gonest ac ymddiriedol, parod i amlygu caredigrwydd mewn adeg o gyfyngder; ac ar amserau hynodid ef gan wresogrwydd ei brofiad crefyddol. At y lluaws fyddloniaid a gollodd yr eglwys Gynulleidfaol yn ddiweddar, teimlid colled ar ôl y brawd caruaidd hwn.
Gadawodd briod a phlentyn mewn amgylchiadau cysurus, eto yn teimlo cryn unigrwydd ar ôl un a wir ofalai drostynt.
Gweinyddwyd ddydd ei angladd gan y Parchn. Joseph Roberts a J. P. Williams.