MRS. WINIFFRED WILLIAMS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Awst 14eg, 1884, yn West Bangor, Pennsylvania, Mrs. Winiffred Williams, gweddw y diweddar Hugh Williams, yn 71 mlwydd oed er Ebrill 13eg.

Daethant i'r wlad hon o Ddolgareg-ddu, Blaenau Ffestiniog, tua 40 mlynedd yn ôl; a buont yn byw yn yr ardal hon, ac eithrio tua thri mis y buont yn Long Island, New York.

Ei afiechyd oedd y typhoid dysentary. Cafodd gystudd trwm am 12 diwrnod. Gadawodd ar ei hol dri mab a thair merch, oll mewn amgylchiadau lled gysurus. Bydd yn brofedigaeth chwerw i Jane ei merch, yr hon sydd ar ymweliad a'r Hen Wlad gyda'i phriod a'i mab Robert, sydd yn Nebraska. Claddwyd hi yn ymyl ei phriod yn mynwent Slateville, yr hwn sydd yn huno yno er's 19 mlynedd; awd a'r corff i'r capel, lle yr oedd yn aelod parchus.

Darllenodd a gweddiodd y Parch. E J. Hughes, a phregethodd y Parch. Joseph D. Smith. Yr oedd yn un o'r Cymry hynaf yn yr ardal, ac yn barchus, fel y dangoswyd yn ei chladdedigaeth ga dyrfa fawr o Gymry a Saeson. Tair wythnos i'r dydd yr oedd yr hen fam yn cael ei chladdu, y ganwyd ei hwyr bach Frederick; a hi oedd y cyntaf i'w dderbyn i'w breichiau.
J. W. JONES.

Y Drych ~ Awst 28ain 1884.