MR. ROBERT WILLIAMS, DODGEVILLE, IOWA, WISCONSIN.
Cyfarfu gwr ieuangc o'r enw Robert Williams â damwain dra echrydus oddeutu 12 ar gloch, y 14eg o fis Chwefror, yn agos i Dodgeville, swydd lowa, Wisconsin. Yr amgylchiad a gymerodd le yn debyg i'r hyn a ganlyn :-Yr oedd Robert Williams wedi rho'i pylor mewn twll ebill, mewn cyffbren er mwyn ei hollti, a gyrodd hoel bren i'r twll ar ol y pylor. Yr oedd ychydig bylor un ochr i'r hoel bren, yn cyrhaedd o waelod y twll i'w ben uchaf, yn yr hwn y rhoddodd R. W. ddylwyfyn {match,) ac wrth iddo geisio rho'i tàn ar y ddylwyfyn, syrthiodd gwreichionen o'r tàn i'r pylor oedd o amgylch y ddylwyfyn; ac yna taniodd y pylor oedd yn y twll, ac a chwythodd yr hoel bren i ben Robert Williams, yr hon a'i harchollodd yn ddirfawr. Cwympodd ar y ddaear, a bu am ennyd ar wêdd un marw, ond canfuwyd fod bywyd ynddo, ac anfonwyd i Dodgeville am feddyg, yr hwn a ddaeth yn ebrwydd i'w weled, ond dywedai ei fod yn anfeddyginiaethol. Anfonwyd i Mineral Point am ddau o feddygon ereill; ond oddeutu 6 ar gloch y prydnawn, ar ddyfodiad y meddygon i'r ystafell, ymadawodd yr enaid â'r corff, a chymerodd ei daith at yr hwn a'i rhoes, Bu mewn poenau dirfawr am oddeutu chwe' awr.
Claddwyd ef yn anrhydeddus ar y 15fed, yn nghladdfa Dodgeville. Yr oedd y tŷ lle yr oedd y corff yn aros yn lled agos i'r Capel Cymreig. Cymerwyd y corff i'r capel, a phregethodd Mr. David Gríffiths yn dra phriodol i'r amgylchiad. Ei destun oedd, 'Wele, mi a ddaethum allan yn wrthwynebydd i ti: canys cyfeiliornus yw y ffordd hon yn í'y ngolwg.' Num. xxii. 32.
Dilynwyd y corff o'r capel i'r gladdfa gan dyrfa luosog. Rhifwyd y dorf, a chafwyd ei bod yn 200; 150 o ba rai oeddynt Gymry. Rhoddodd y Parch. David Jones ychydig gynghorion i'r gynnulleidfa ar lan y bedd, yn yr iaith Saesonaeg, ac a ddiolchodd i'r gynnulleidfa am eu caredigrwydd yn rhoddi eu presennoldeb ar yr amgylchiad; ac wedyn ymadawsom, gan adael yr hwn oedd hoff gan ein henaid yn y tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw.
Yr oedd Robert Williams yn fab i Robert Williams, Goruchwyliwr Cioddfa Lechi Dorothea, yn agos i LanHyfni, swydd Gaernarfon, Cymru. Nid oedd wedi cyrhaedd ei 20 mlwydd oed. Daethai i'r wlad hon yn yr 'Hindoo' yr hâf diweddaf, (1845.) Efe oedd y Robert Williams a gyferchir yn y llinellau sydd i'w gweled yn y Cyfaill am Ragfyr, 1845, tudalen 182. Parodd ei farwolaeth dristwch mawr yn mhlith y Cymry yn gyffredinol.