MR. HUMPHREY E. CLOSS, SPRINGVALE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Son of : Robert Closs 1803-1872 and Ellen Evans Closs 1810-1861.

Wisconsin County History and Findagrave.


MR. HUMPHREY E. CLOSS, SPRINGVALE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Ebrill 2,1885, yn ardal Blue Springs, Nebraska, bu farw Humphrey E. Closs, yn 44 mlwydd oed, o afiechyd y kidneys, gan adael priod a thri o blant mewn dwfn alar ar ei ol.

Ganwyd ef yn Llanberis, Swydd Gaernarfon, G. C. Ei rieni oeddynt John ac Ellen Closs. Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1859, ac ymsefydlodd yn ardal Welsh Prairie, Wisconsin, i'r hwn le yr oedd ei rieni wedi ei ragflaenu er y flwyddyn 1845. Hwy oeddynt rai o sefydlwyr cyntaf yr ardal boblogaidd uchod.

Yn y flwyddyn 1867, priododd gydag Ellen Hughes, merch William a Margaret Hughes, Bryn Adda, o'r un ardal, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymwys yn ngwir ystyr y gair hyd y diwedd. Yn y flwyddyn 1879, symudodd ef a'i deulu i'r ardal uchod. Yr oedd amryw linellau yn nghymeriad ein brawd ag sydd yn gwneyd ei goffadwriaeth yn anwyl a chysegredig, ac yn deilwng o'i efelychu. Fel dyn, yr oedd yn un tawel, hynaws a diymhongar, cyson a gwastad ei ymarweddiad, yn un hynod o ddifyr a dymunol ei gymdeithas. Fel tad a phriod, yr oedd yn un tirion a gofalus, a lles ei deulu yn dymorol ac ysbrydol mewn golwg ganddo. Fel cymydog, yn heddychol a chymwynasgar, a gair da iddo gan bawb. Fel cyfaill, yn bur a didwyll, yn un ag y gellid rhoddi pob ymddiried ynddo mewn perthynas i gadw cyfrinaeh.

Fel Cristion, yr oedd wedi gwneyd proffes o grefydd Mab Duw, ac yn ymdrechu byw yn unol a'i broffes. Daeth at grefydd yn adeg y diwygiad grymus a fu yn ardaloedd Cymreig Wisconsin yn y flwyddyn 1860. Dywedodd wrth ysgrifenydd hyn o linellau anmherffaith, tra ar ei wely cystudd, "Yr oeddwn yn teimlo er ys tro fy mod allan o ddiogelwch, ac yn dysgwyl rhywbeth mawr i fy symud at grefydd; ond yn adeg y diwygiad, teimlais nas gallaswn aros fel yr oeddwn ddim yn hwy, fod yn rhaid ffoi at y Gwaredwr am ddiogelwch, neu fod yn golledig. Felly troais fy wyneb ato, a chefais radd o gymorth i roddi fy hun iddo - Efe i fod yn Dduw i mi mwy, a'i bobl ef yn bobl i minau.

Ar ol hyn, teimlais fod yr hen bethau fel wedi myned heibio, a bod pob peth wedi ei wneyd o newydd. "Derbyniwyd ef ac amryw eraill yr un pryd yn gyflawn aelodau yn hen gapel Seion, gan y Parch John R. Daniel. Yr oedd amryw ragoriaethau yn perthyn iddo fel crefyddwr. Yr oedd yn un ffyddlawn. Nid ydym yn meddwl ffyddlawn mewn bod yn mhob moddion o ras yn unig; na, yr oedd y pellder oedd rhyngddynt a'r addoldy, yn nghyd a gwendid ei iechyd er ys misoedd, yn rhwystr iddo fod yn yr ystyr yma, ac yr oedd hyn yn peri gofid iddo hefyd; ond yr oedd ei ofal yn fawr am yr achos, a phob amser yn barod i wneyd ei oreu drosto, a byny o dan yr ystyriaeth o'i rwymedigaeth a'i ddyledswydd i wneyd, ac o herwydd teilyngdod yr achos.

Yn ei dy ef y sefydlwyd eglwys Gymreig Blue Springs, ac etholwyd yntau i swydd ynddi ar y pryd, a bu mewn swydd ynddi hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn un manwl a gofalus yn nghyflawniad pob swydd a ymgymerai a hi. Rhagoriaeth arall yn perthyn iddo oedd haelfrydedd. Yr ydoedd yn un mwyaf parod i gyfranu at gynal crefydd, yn nghyd a phob achos teilwng a da arall.

Bydd yn golled fawr i'r eglwys hon am dano yn yr ystyr yma. Hefyd, tangnefeddwr ydoedd yn y gymydogaeth a'r eglwys. Ei ymddygiadau yn dangnefeddus tuag at bawb, yn cadw ei hun yn lân oddiwrth bob ymrysonau ac ymbleidio anfrawdol. Yr oedd hefyd yn ddirwestwr trwyadl ac egwyddorol. Bychan oedd ei ddawn, ond yr oedd wedi ei addurno a symledd a chywirdeb, yr hyn bethau, yn ol dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu, sydd raid i bob un o'i ddilynwyr ef eu meddu. Yr oedd yn dra hoff o gerddoriaeth, ac yn meddu ychydig o wybodaeth am dani. Byddai bob amser yn gefnogol i gyfarfodydd llenyddol, ac yn ddarllenwr cyson o'r Cyfaill, ac yn hoff o hono.

Dioddefodd ei gystudd yn hynod o dawel, heb gymaint a gair o rwgnach. "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd." Yr oedd, trwy ei ddiwydrwydd, wedi dyfod i amgylchiadau cysurus. Cafodd yr ardal, ac yn enwedig yr eglwys, golled fawr ar ei ol. Ond efe a fu farw, er pob medr a gallu meddygon. Bydded Duw eu tad yn Dduw i'r plant, ac yn llond ei addewid i'w briod hawddgar.

Claddwyd ei weddillion yn mynwent Gymreig yr ardal, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. Lantz a W. R. Williams. Pregethwyd pregeth goffadwriaethol iddo y Sabboth canlynol gan yr olaf.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1885.


MR. HUMPHREY E. CLOSS, SPRINGVALE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Ebrill 2il, 1850, bu farw H. E. Closs, agos yn 45 oed. Tarawyd ef Chwefror 25ain gan ryw fath o barlys, a pharhaodd i waelu er pob gofal ac ymdrech meddygon gortu y trefydd cylchynol yma.

Yr oedd y brawd Closs yn un o'r sefydlwyr cyntaf ar y reserve yma, ac yr oedd gofal byd ac eglwys am dano nos a dydd, yn ystod ei afiechyd, yn brawf diymwad o'u parch iddo ef a'i deulu caredig.

Ganwyd ef yn ardal Llanberis, Gogledd Cymry. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1859, gan sefydlu yn Cambria, Wisconsin, gyda'i rieni, y rhai oeddynt gyda'r sefydlwyr cyntaf yn Cambria yn 1845, wedi ei ragflaenu ef ers blynyddau lawer. Enwau ei rieni oeddynt Robert ac Ellen Closs. Yn grefyddol, un o blant y diwygiad mawr 1860 oedd Mr. Closs: ac O! mor hoff oedd ganddo son am yr adeg y cafodd drugaredd, ac am y Parch. J. R. Daniel yn ei dderbyn trwy gydsyniad pobl yr Arglwydd yn nghapel Seion, yn aelod o'r eglwys hono, a pharhaodd yn ei yrfa grefyddol yn ddi-fwlch, ac yn hollol ddiofid i'r eglwys hyd y diwedd.

Prif deithi ei fywyd crefyadol oeddynt, bywyd gwastad a chyson a'i broffes, a gwaithiwr tawel a ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith. Ni chlywid byth am ddim twrw gyda'r brawd Closs, ond beunydd yn siriol a heddychol a phawb, ac yn hollol ddiymhongar. Ni chyffyrddodd y clefyd hwn erioed feddyliwn ag ef. Yr oedd addfwynder a lledneisrwydd ysbryd yn argraffedig yn ei wynebpryd, a rhyw serchogrwydd cynes yn nheimlad ei law wrth ei siglo hi. Mae yma eglwys ac ardal gyfan yn teimlo colled ar ei ôl. Dichon mai ar ôl dyfod yma y bu fwyaf defnyddiol gyda'r achos, gan fod yr angen am rai o'i gymeriad ef yn fwy yma nag yn sefydliad mawr Cambria, Wisconsin. Yn ei dŷ ef y sefydlwyd yr eglwys yma gyntaf, gan y diweddar Barch. J. J. Cardy, Ebrill 1878, ac y gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd i tua 11 o aelodau!

Penodwyd ef y pryd hwnw yn ysgrifenydd yr eglwys; ac ar gorfforiad yr eglwys yn Chwefror 1878, penodwyd ef yn ddiacon, i gynorthwyo gyda'r diacon etholedig, nes delai yr eglwys yn fwy addfed i ddewis rhagor. Bu hefyd yn gwasanaethu yr eglwys fel trysorydd; ac yr oedd yn un o'r pwyllgor adeiladu y capel newydd. Ni ddywedwn ormod, pe dywedwn mai efe a wnaeth fwyaf o neb dros adeiladu y capel newydd. Yr oedd yn awr yn y swydd o Ysgrifenydd yr Ymddiriedolwyr a thrysorfa yr amgylchiadau.

Yr oedd ei angladd eto yn brawf o'r parch a deilyngai; ac yr oedd pawb yn edmygu ei dawelwch a'i amynedd yn ei holl gystudd. Dyoddefodd yn hollol ddirwgnach, ac aeth i lawr at y glyn yn hollol ddiofn. I'n golwg ni, yr oedd fel yn rhyw rodio am ddyddiau ar "hyd y glyn." "Ni frysia yr hwn a gredo;" felly yntau. Yr ydym yn cyflwyno ei weddw alarus a'r tri bachgen amddifad i Farnwr y gweddwon a Thad yr amddifaid.

Claddwyd ef yn mynwent y Cymry; Parchn. Lantz a Williams yn gweinyddu yn y ddwy iaith.

Y Drych ~ Mai 7fed 1885.