MRS. HANNAH R DAVIES. DANIELSVILLE, NORTHAMPTON CO. PENNSYLVANIA.
Awst 28ain, 1835, yn Danielsville, Northampton County, Pennsylvania, yn 44 mlwydd oed, Hannah R. Davies, anwyl briod Robert R. Davies.Dygodd angeu ei oruchwyliaeth yn mlaen yn brysur arni. Yr oedd yn ei chynefinol iechyd bedwar diwrnod cyn ei marwolaeth.
Merch ydoedd i Hugh Griffiths, Tirionpelun, ger Chwarei Bralch yr hudd, Llandwrog, Gogledd Cymru. Bu yn briod am 23 o flynyddoedd, a threuliodd 11 ohonynt yn ei bro enedigol; yna symudasant fel teulu i'r cyffiniau hyn yn 1873.
Yr oedd yn aelod gyda'r T C. Arferai fod yn llawn yni a bywiogrwydd gyda ei dyledswyddau fel priod a mam, ac yn nodedig o siriol, croesawus a chymwynasgar fel cymydoges. Mae'n syn genym feddwl ei bod yn gorwedd yn dawel heddyw yn mhriddell oer y dyffryn du; ond "Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu."
Am un o'r gloch prydnawn y 1af cyfisol, cychwynodd yr elorgerbyd gyda'r gweddillion marwol o Danlelsville tua Slatington, yn cael ei ddylyn gan ddeugain o gerbydau eraill. Wrth yr orsaf yr oedd y "Slatington Lodge of K. of P." wedi ei ffurfio yn orymdaith, yn nghyd a thyrfa fawr o'r cymydogion yn eu dysgwyl, ac aethpwyd yn mlaen i addoldy y T. C., lle bu yr ymadawedig yn aelod tra bu yn byw yn y gymydogaetb. Cafwyd sylwadau buddiol a phriodol iawn ar yr achlysur gan y Parch. William Jones (A.); yna yn nghanol galar dwys ei phriod, ac wylofain torcalonus ei phlant - wyth mewn nifer, cyfeiriwyd tua'r Fairview Cemetery, lle dodwyd rhan farwol Hannah Davies i orwedd hyd nes
"Bo dorau beddau y byd
Ar un gair yn agoryd."
JOHN W. MORRIS.