MRS. ELIZABETH EVANS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 7fed, 1885, yn Rome, New York, Elizabeth, anwyl briod Hugh V. Evans, yn 76 mlwydd ac 8 mis oed.

Merch ydoedd i Thomas ac Elizabeth Jones, o Llanfihangel-y-Penant, Sir Feirionydd. Yr oedd yn un o'r aelodau mwyaf ffyddlon a chywir a feddai eglwys y T. C. yn y lle uchod, ac wedi bod yn ngwasanaeth y Gwaredwr er's dros haner can' mlynedd. Yn ei chystudd olaf cafwyd prawf newydd o wirionedd y geiriau "Y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw," "Ni frysia yr hwn a gredo."

Yr oedd ei meddwl mewn "tangnefedd heddychol," yn dysgwyl yn amyneddgar ond eto yn hiraethus am awr ei hymddatodiad. Yr adnod olaf glywyd ganddi ydoedd hon - "Y mae arnaf chwant i'm datod a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell yw."

Hebryngwyd ei gweddillion marwol gan dyrfa fawr i fynwent Westernville, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John H. Jones.

Y Drych ~ Ionawr 29ain 1885.