MRS. MARGARET GRIFFITHS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 18fed, 1885. yn Remsen. New York, yr hen chwaer dduwiol a ffyddlon, Mrs. Margaret Griffiths, ar ôl hir nychdod a gwaeledd, yn 78 mlwydd a 4 mis oed.

Ganwyd hi yn Bryncroes, Lleyn, Sir Gaernarfon. Ei henw cyn priodi oedd Margaret Williams. Ganwyd iddl naw o blant, pump o'r rhal sydd yn fyw, sef tair o ferched a dau o feibion, wedi eu gadael yn amddifad o dad a mam. Bu yr hen dad, Griffith R. Griffiths, farw Mawrth 16eg, 1881, ac er y pryd hwnw yr oedd yr hen chwaer yn aros yn yr hen gartref, a'i mab a'i merch yn dyner a gofalus amdani, sef Robert ac Elizabeth Griffiths: a gallaf dystio na welais blant erioed mwy tyner a gofalus o'u mam hyd ei hanadl olaf. Y maent eto yn teimlo yn hynod o alarus ar ei hol; ond y mae ganddynt le cadarn i gredu fod marw wedi troi yn elw tragywyddol iddi.

Bu yn aelod hynod o ffyddlon o eglwys y Bedyddwyr yn Bordwell, er pan gorfforwyd yr eglwys nes y caethiwed hi gan henaint a gwaeledd. Y Llun canlynol ymgynullodd lluaws o'i hen adnabyddion i dalu y gymwynas olaf i'w rhan farwol, pryd yr awd a'r corff i gapel Bordwell, lle y pregethodd yr ysgrifenydd yn Gymraeg a George Powell Parry, o Ysgol Dduwinyddol Madison, New York yn Saesneg - mab yr ysgrlfenydd. Oddiyno aed a'r corff at ochr ei phriod yn mynwent Fairchild.
OWEN F. PARRY.

Y Drych ~ Gorffennaf 23ain 1885.