MISS. ANN GRIFFITHS. RANDOLPH, WISCONSIN.

Rhagfyr 8fed, 1885, yn Randolph, Wisconsin, bu farw Miss Ann GrifBths, chwaer i Mrs. Gwen Davies (gweddw yr hen ddiacon ymadawedig, William Davies), a chladdwyd hi ar y lOfed o'r mis yn mynwent Randolph.

Yr oedd y chwaer hon agos yn 65 mlwydd oed pan fu farw. Daeth i America tua deunaw mlynedd yn ol, o ardal Gwynfryn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, a bu yn cartrefu gyda ei chwaer tra fu byw. Bu farw yn lled ddi-symwth. Yr oedd tipyn o effeithiau anwyd arni er ys rhai dyddiau, ond nid oedd hi na neb arall yn tybied fod dim peryglus arni. Bu allan y prydnawn cyn ei marwolaeth yn nhai rhai o'r cymydogion; ond aeth yn sal a phoenus iawn y noson hono, ac er cael meddyg ati, a phawb wneyd eu goreu iddi, bu farw boreu dranoeth am 11 o'r gloch. Ni chafodd amser na hamdden i ddweyd dim wrth farw. Nid yw o nemawr bwys ar fod i berson ddweyd llawer wrth farw; ond pa beth a ddywedodd ei ymarweddiad wrth fyw sydd o bwys. Ni waeth faint a ganmolir ar berson ar ol iddo farw; y peth oedd ef neu hi yn eu bywyd yw y gwirionedd am danynt. Bod yn dduwiol sydd yn bwysig. Nid yw o gymaint pwys i ddyn erbyn marw ei fod yn meddu dysgeidiaeth fawr, neu dalentau dysglaer, ond y mae o dragywyddol bwys iddo ei fod yn dduwiol.

Yr oedd y chwaer hon wedi ei magu yn yr eglwys, ac ni fu allan o honi. Yr oedd yn un ddiwyd iawn yn dilyn moddion gras trwy bob tywydd, er mai corph bychan gwanllyd oedd ganddi. Nid oedd y chwaer heb ei cholliadau, mwy nag eraill, ond credwn er y cyfan ei bod yn dduwiol. Gwiriwyd geiriau Crist yn ei marwolaeth, "Canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn."
Thomas Foulkes.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1886.