MR. ROWLAND HUGHES. GRANVILLE, OHIO.

Ionawr 6ed, 1885, yn 85 mlwydd oed, Rowland Hughes, o ger Granville, Ohio.

Ganwyd ef mewn tŷ anedd a berthynai i amaethdy Trygarn, yn mhlwyf Bryncroes, Sir Gaernarfon, yn 1800. Mab ydoedd i John Hughes.

Yn 1821 ymbriododd ag un Gaynor Lewis, merch i Lewis Charles, Ty Mawr, Bryncroes. Bu yn ddiacon ffyddlon yn eglwys y Tŷ Mawr flynyddoedd lawer.

Yn 1823 ymfudasant i America, gan ymsefydlu ya Trenton, New York. Daethant i Granville yma yn 1832. Bu iddynt naw o blant, tri o'r rhai fuont feirw; ond mae chwech yn fyw i gydalaru ar ôl eu tad tyner a phriod ffyddlon. Yr oedd Mr. Hughes yn cael ei ystyrled yn un o'r cymydogion goreu a feddom. Ni chlywyd erioed iddo arfer twyll â neb. Yr oodd yn hynod am ei eirwiredd a'i onestrwydd. Yr oedd y teulu hefyd yn dra haelionus at bob achos teilwng. Bu eu tŷ yn nawddle i weinidogion y Gair am flynyddau lawer, a than eu cronglwyd hwy y byddai dyeithriaid yn cael cysgod.

Daethant trwy eu diwydrwydd a'u gweithgarwch i sefyllfa gysurus, hwy a'u plant, fel y gellid eu cyfrif yn y dosbarth a olygir yn y geiriau hyny - "Rhyw un a wasgar ei dda a chwanegir iddo."

Bu Mr. Hughes yn arweinydd y canu hyd nes y pallodd ei iechyd. Byddai yn gyson yn y moddion, ac yn yuaddangos fel yn mwynhau y moddion yn wastad. Cafodd gystudd maith a chaled, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar. Gwelodd lawer diwrnod tywyll yn ei oes hirfaith; ond hyderwn wrth yr ychydig a dywedai ei fod wedi dianc byth gan ei rarnwr, a'i fod erbyn hyn wedi sylweddoli yr hyn a ganai -

"Gwelaf graig a'm deil mewn stormydd,"

Ionawr 8fed, ymgynullodd tyrfa fawr o'i gyfeillion a'i berthynasau i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion, pryd y gweinyddwyd wrth y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. D. J. Davies, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. O. Thomas, Newark. Daearwyd yr hyn oedd farwol o'r brawd anwyl hwn yn Granville New Cemetery.
JOHN J. HUGHES.

Y Drych ~ Ionawr 22ain 1885.