MR. GRIFFITH E. HUMPHREY. IXONIA, WISCONSIN.

Rhagfyr 16eg, 1885, gartref, yn Ixonia, Wisconsin, Griffith E. Humphrey, yn 65 mlwydd oed, er Gorphenaf diweddaf. Anhnyldeb o natur y dyfrglwyf oedd yr achos o'i farwolaeth.

Mab ydoedd i Ellis Humphrey, Bryn Ceirch, ger Pwllheli, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon tua deugain mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd ar y cyntaf yn "Section Four;" ond yn mhen rhai blynyddau symudodd i'w ddiweddar gartref yn Ixonia.

Gadawodd ar ei ôl weddw, un mab a phedair o ferched o'i wraig gyntaf. Goroesir ef gan dri brawd, Richard, Humphrey E ac Ellis E., ac un chwaer, Mrs Probert, Michigan.

Trwy gynildeb a diwydrwydd, casglodd gryn lawer o dda y byd hwn. Er nad oedd yn aelod eglwysig, mynychai y moddion gyda yr Annibynwyr, a chyfranai yn deilwng at yr achos. Yr oedd yn ddyn dirodres, didderbyn wyneb, sobr, gonest, cymwynasgar a rhydfrydig. Telmlir colled fawr ar ei ôl mewn llawer cylch.

Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol, yn mynwent Annibynol yr ardal, yn ngwydd tyrfa fawr anarferol o'i gymydogion hiraethlon. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parchn. Jenkins, Oconomowoc, a J. E. Jones, Ixonia.

Y Drych ~ Rhagfyr 31ain 1885.