MRS. ELIZABETH HUMPHREYS. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Ebrill 7fed, 1885, yn Middle Granville, New York, Mrs. Elizabeth Humphreys, yn 72 mlwydd oed. Tua blwyddyn a haner yn ôl bu farw ei phriod, W. Humphreys.

Yn Llanberis, Arfon, y ganwyd Mrs. Humphreys. Bu iddynt ddeuddeg o blant, tri o'r rhai sy'n awr yn fyw. Yn West Bangor, Pennsylvania, y treuliasant y rhan helaethaf o'u hamser yn y wlad hon.

Ar ôl marwolaeth ei phriod cymerodd hi ei chartref gyda'i mab Humphrey, gyda'r hwn a'i briod y cafodd y gofal mwyaf tyner a charedig. Byr fu ei chystudd, yr hwn a oddefodd mewn tawelwch - dim brys - oblegid yr oedd hi yn hen Gristlon brofiadol, ac wedi proffesu ei bod felly am flynyddau lawer gyda y T. C.

Y dydd Gwener canlynol y cludwyd ei gweddillion i'r gladdfa. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol bur briodol gan y Parch. T. M. Owens. Granville. Yr oedd yr holl drefniadau, yn nghyd a lluosogrwydd yr angladd, yn awgrymu parch dwfn i'n hen chwaer ymadawedig.
H. D. FOULKES.

Y Drych ~ Ebrill 23ain 1885.