MR. EMRYS HUMPHREYS. FAIR HAVEN, VERMONT.

Ebrill 17eg, 1885, yn nhy ei fodryb, Mrs. H. D. Humphrey, Fair Haven, Vermont., o'r acute peritonitis, yn 19 mlwydd a 6 mis oed, Emrys Humphrey.

Ymfudodd ef a'i frawd Tommie i'r wlad hon o Aberllefeni, Gogledd Cymru, yn Mehefin, 1884. Ymsefydlodd ef gyda'i ewythr, Mr. E. D. Humphrey, yn y lle uchod, ac aeth ei frawd at ewythr arall - Mr. Rowland Humphrey, 1 Jamestown, New York. Bu Emrys Humphrey yn gweithio yn chwarel y Scotch Hill Co. hyd ddechreu y gauaf, yna aeth i'r ysgol, lle yr arosodd hyd oddeutu tair wythnos neu fis cyn ei farwolaeth. Wedi treulio y gauaf yn ddiwyd ac ymroddgar i gasglu gwybodaeth, aeth i weithio at yr un cwmni eilwaith gan feddwl ail-afael yn ei wersi y gauaf nesaf; ond "Nid fy meddyllau i yw eich meddyliau chwi." Wedi bod yn dylyn ei orchwyl am oddeutu pythefnos, cymerwyd ef yn glaf yn ddisymwth o'r anhwyldeb a nodwyd, ac er ei fod yn meddu ar gorff cryf a chyfansoddiad cadarn, yr oedd ei glefyd y fath fel y terfynodd ei fywyd mewn llai na 60 awr o amser.

Cafodd bob caredigrwydd yn bosibl, a'r gofal meddygol mwyaf ymroddgar gan Drs. Roberts a Wakefield. Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r bechgyn ieuainc mwyaf rhinweddol a ddaeth i America erioed.

Er iddo golll ei dad a'i fam pan yn dra ieuanc, eto rhodiodd lwybrau rhinwedd a sobrwydd, a glynodd yn ffyddlon wrth achos yr Arglwydd. Er na chafodd namyn ddeg mis prin o amser yn y wlad hon, cyn cael ei gymeryd i ffordd yr holl ddaear, eto gwnaeth iddo ei hun lu o gyfeillion. Gellir dweyd am dano ei fod yn ffrynd i bawb, er hyny gofalai yn wastad na byddat yn gyfaill i neb ond y rhinweddol a'r pur. Yr oedd iddo air da gan bawb, ac y mae ei goffadwriaeth heddyw yn fendigedlg yn ein mysg.

Cafodd angladd hynod o barchus a lluosog, dan arolyglaeth y gyfrinfa Iforaidd o ba un yr oedd yn aelod. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. J. W. Williams, J. Michael Hughes a Mr. O. J. Owen, caplan yr Iforiaid, a -

"Dyma fan fechan ei fedd,
Ar arall dir i orwedd."
J. M. H.

Y Drych ~ Mai 14eg 1885.