MRS. MARGARET HUMPHREYS. SLATINGTON PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 12fed, 1885, yn 28 mlwydd oed, Margaret, priod Richard Humphreys, Slatington, Pennsylvania. Bu yn mhair cystudd am flwyddyn, a chafwyd hi fel aur wedi ei buro trwy dân. Y geiriau diweddaf yn ei hawr olaf oedd, "Yr Arglwydd yw fy mugall, ni bydd eisiau arnaf." Yr oedd yn myned i'r glyn yn dawel ac esmwyth. Perthynai i'r Annibynwyr, ac yr oedd yn hynod ddymunol i fod yn ei chymdeithas o herwydd crefyddolder el hysbryd. Cafodd bob cymorth a allasai priod roddi, a meddygon goreu y lle estyn iddi: ond angeu a orchfygodd.

Ar yr 16eg hebryngwyd hi i dŷ ei hir gartref, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. William H. Jones, yr hwn a roddodd foddlonrwydd i dyrfa fawr oedd yn ei wrando.

Merch ydoedd yr ymadawedig i William Roberts, Buarth-y-Foty, Llanllyfni, Arfon. Cymorth gaffo y perthyasau lluosog a pharchus yn y wlad hon a'r Hen Wlad i ymdawelu yn yr amgylchiad, dan obaith cael ei chyfar fod mewn gwlad na bydd raid ymadael mwy.
RICHARD E. ROBERTS.

Y Drych ~ Rhagfyr 31ain 1885.