MRS. ELIZABETH JONES. LOCKPORT, ILLINOIS.

Gorphenaf 8fed, 1885, yn Lockport Illinois, o'r cancer yn yr ystumog, yn agos i 42 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Jones, gynt o'r Towyn, Sir Feirionydd, yn yr hwn le y mae ei mam yn byw eto.

Cymerodd yr angladd le y dydd canlynol o'r eglwys Gynulleidfaol, o'r hon yr oedd Mrs. J. yn aelod dichlynaidd, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan weinidog parchus y Bedyddwyr, o'r lle hwn. Gadawodd Mrs. Jones bedwar o blant yn hollol amddifad i alaru ar ei hol, heb yr un berthynns i ofalu am danynt. Mae y ddau hynaf, sef y ddau fachgen, yn abl i ofalu amdanynt eu hunain; ond y mae y ddwy eneth heb orphen eu magu. Dyma yr angladd trymaf a welais erioed. Yr oedd edrych ar y plant bach yn wylo am eu mam fel hyn yn nghanol estroniaid, yn ddigon i doddl calon o gareg; ac yr oedd swn wylo i'w glywed drwy yr holl dorf.

Priod oedd Mrs. Jones i David E Jones, teiliwr wrth ei alwedigaeth; ond ni wyddom pa un a'i byw a'i marw yw ef. Yn Creston, Iowa, yr oedd pan glywodd oddiwrtho ddiweddaf, tua saith neu wyth mlynedd yn ôl. Deallwyf fod perthynasan agos iddo ef yn rhywle tua Rome, New York, mewn amgylchiadau cysurus, ac un ohoynt yn weinidog gyda yr A., o'r enw D. Pritchard, os wyf yn cofio yn iawn. Dyma gyfle da iddynt ddangos y tu allan i grefydd bur, sef y tu hwnw i grefydd bur y mae St. Iago yn ddangos, trwy gymeryd trugaredd ar y ddwy eneth fechan amddifad yma, a rhai pert ydynt hefyd.

Pe buasai can' mil o bunau wedi eu gadael ar ol Mrs. Jones, buasai grabio mawr am danynt gan y perthynasau. Mae boneddigesau yr eglwys Gynulleidfaol yma yn haeddu clod am eu caredigrwydd a'u cymorth diflino i Mrs. Jones ar hyd ei chystudd, a thrwy y blynyddau o ran hyny er pan ymadawodd ei phriod, trwy gyfranu iddi bob peth angenrheidiol, a chyflogi dynes brofiadol i welnyddu arni nos a dydd drwy ei chystudd; ac yr oedd dwy neu dair o'r boneddigesau eu hunain yn cynorthwyo y nurse yn barhaus; ac yr oedd dau feddyg yn gweinyddu arni gyda hyny.

Nid ydynt wedi penderfynu eto beth i wneyd i'r genethod bychain, mae hyn i'w benderfynu gan bwyllgor. Mae yn hawdd iawn dweyd "Bydded Tad yr amddifaid, yn gymorth iddynt;" ond nid mor hawdd ganddynt wneyd dim eu hunain er eu cynorthwyo. Nid oes Cymry yn y lle hwn ond nyni a phlant Mrs. Jones.
W. EVANS.

Y Drych ~ Gorffennaf 23ain 1885.