MISS. KATE JONES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Rhagfyr 17eg, 1885, yn Minneapolis, Minnesota, o'r typhoid fever, yn 16 mlwydd oed, Kate Jones, merch ieuangaf Richard ac Ellen Jones, gynt o Moelfa Iron Works, Porthmadog, Gogledd Cymru.Yr oedd Kate yn ferch ieuanc dalentog a ddiwylliedig, ac yn un o'r genethod mwyaf addawol pe cawsai fyw. Yr oedd ynddi hefyd arwyddion amlwg ei bod yn ofni Duw ac yn caru yr Iesu. Un o'i hoff emynau ydoedd "Jesus Lover of my Soul."
Claddwyd hi yn Woodland Cemetery. Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan yr ysgrifenydd.
Mynodd pobl ieuanc yr eglwys Cymreig yma anrhydeddu ei choffadwriaeth trwy osod colomen wen mewn coron o flodau ar ei harch - arwyddlun priodol iawn o brydferthwch a diniweidrwydd yn nghyd.
Traddodwyd pregeth goffadwriaethol iddi nos Sabboth i gynulleidfa luosog gan yr ysgrifenydd oddiar Preg. 12:1. Canodd y cor hefyd anthem angladdol Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., o dan arweiniad Mr. D. E. Jones, yn rhagorol iawn ar yr amgylchiad. Y mae galar y teulu yn fawr. Cymorth a gaffont i beidio tristau yn ormodol yn yr amgylchiad hwn oblegid nid rhaid iddynt dristau heb obaith.
Un o'i hoff emynau diweddaf hefyd oedd
"Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th gynteddau caf ddod."
Yn eu trallod dwys dyddaned ei rhieni, ei chwaer a'i brodyr eu gilydd a'r gobalth gwynfydedig ei bod wedi huno yn yr Iesu.