MISS. MAGGIE E. JONES. CHICAGO, ILLINOIS.

Awst 5ed, 1885, yn Chicago, Illinois, o'r typhoid, fever, Maggie E. Jones, yn 21 mlwydd oed er y 10fed o Fawrth.

Merch ydoedd i Richard J. Owens a Mrs. Jones, y rhai a ymfudasant o Clwt y Bont, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1851. Anhawdd yw i'r rhieni ddal o dan y brofedigaeth o golli merch ieuanc mor addawol, addtwyn a siriol, ac o gymeriad mor ddifrycheulyd. Cafodd ei derbyn yn aelod eglwysig yn Jerusalem, Welsh Prairie, Wisconsin, ond symudodd i Chicago flynyddoedd yn ôl i wasanaethu mewn store gyda ei brawd; ond yn store Mr. Lloyd yr ydoedd cyn ei marwolaeth, yr hwn a ddangosodd bob parch iddi mewn arwyddion o alar ar ôl un mor ffyddlon yn ei wasanaeth.

Hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohoni o dŷ ei brawd gan ei rhieni a'i brodyr i'w chladdu yn mynwent Cambria. Cynaliwyd y gwasanaeth crefyddol yn nhŷ Mr. Harris, Banker, Cambria, yr hwn a dderbyniodd y corff i'w dŷ, gan fod y rhieni braidd yn bell o Cambria. Derbynied ddiolchgarwch y teulu am ei garedigrwydd.

Y Parch. Robert T. Roberts (P.) oedd yn gwasanaethu yn y tŷ, a'r Parch. David Jones, Cincinnati, ar lan ei bedd, wrth yr hwn yr adroddodd lawer o adnodau yn y gyfelllach eglwysig, a hyderwn ei bod yn medi o ffrwyth ei llafur ar fryniau gwynfyd - fod ei holl wendidau wedi eu hangofio gan yr Hwn sydd yn caru pechaduriaid edifeiriol. Gobeithiwn y ca y rhieni galarus gymorth i ddal dan y brofedigaeth chwerw sydd wedi eu goddiweddyd. Cambria.
M. A. HUGHES.

Y Drych ~ Hydref 1af 1885.