MR. ROBERT BLAIR JONES. RACINE, WISCONSIN.
Mehefin 21ain, 1885, yn Racine, Wisconsin, Robert Blair Jones, o'r apoplexy, yn 48 mlwydd oed. Er ei fod yn wael ei iechyd er's peth amser, eto darfu i'w farwolaeth sydyn ac annysgwyliadwy daro pawb a braw.Daeth Mr. Jones i Racine gyda ei rieni, yn y flwyddyn 1842, o Ddyffryn Ardudwy, Meirionydd, Gogledd Cymru, a threuliodd ei holl oes yma. Yr oedd wedi cael addysg dda; bu yn Racine College am amser. Yr oedd wedi dysgu y gelfyddyd o harness maker. Pan dorodd y gwrthryfel allan, ymrestrodd gyda y cwmni Cymreig a ffurfiwyd yma, mewn cysylltiad a'r 22ain Gatrawd Wisconsin. Vol. Gwasanaethodd ei wlad hyd ddiwedd y rhyfel yn ffyddlon a dewr. Bu mewn llawer o frwydrau celyd, ac yr oedd yn "Ymgyrch Sherman i'r Mor."
Cafodd brofi beth oedd caledi a chyni Libby Prison; ond dychwelodd yn ôl yn iach, ar ôl myned drwy gymaint o beryglon. Yr oedd yn First Lieutenant ar derfyniad y rhyfel.
Bu mewn cysylltiad masnachol gyda'i ewythr, W. W. Vaughan, am lawer o flynyddoedd, ond ar ôl marwolaeth yr olaf, cariodd y fasnach yn mlaen ei hunan. Nodweddion ei fywyd oaddynt, haelioni, cymwynasgarwch, a defnyddioldeb. Bu yn llenwi swyddi o ymddiried am lawer o flynyddoedd fel Supervisor ac Alderman, a hyny er lles y cyhoedd ac anrhydedd iddo ei hun.
Bu yn ffyddlon hefyd drwy ei oes gyda chrefydd, fel athraw ac arolygwr yr ysgol Sul, ac efe oedd ysgrifenydd eglwys Y T.C. er's amryw flynyddoedd. Gellid dweyd am dano, mai yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth. Bydd colled fawr ar el ôl mewn byd ac eglwys. Ond i'w briod a'i unig fab y bydd y golled fwyaf; canys nid oedd yn bosibl fod priod a thad tynerach a mwy gofalus.
Claddwyd ef ar y 23ain, o addoldy y T. C., pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Eli Corwin, D. D., J. P. Williams, H. P. Howells, a John J. Roberts, Columbus. Yr oedd yn bresenol y Maer a'r Cyngor Dinasol, yr hen sefydlwyr, yr hen filwyr, yr Odyddion, a llawer iawn o ddinasyddion o bob cenedl; yr oedd yn un o'r angladdau mwyaf lluosog a welwyd erioed yn y ddinas, ac yr oedd yn arddangosiad o'r parch a delmlid i Mr. Jones.
T. LL. W.