MR. ROBERT WILLIAMS, RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Robert Williams, mab i Mr. Edward Williams, Llwynglodde, Meirionydd, Gogledd Cymru, yr hwn a ymadawodd á'r byd hwn y 13eg o Ionawr, 1846, yn y 26fed flwyddyn o'i oedran.Gorwedd yn awr yn nghladdfa Racine. Hebryngwyd ei weddillion i'r gladdfa gan gynnulleidfa luosog o Gymry, Gwyddelod ac Americaniaid, a thraddododd y Parch. Robert Williams, (diweddar o Gymru, ac a dreuliasai rai blynyddoedd yn Iwerddon,) araith fer, ond tra chynnwysfawr, treiddgar a chymhwys i'r amgylchiad. Dangosai anfeidrol werth yr Ysgrythyrau, oblegyd hebddynt buasai y gofyniad hwnw heb ei ateb, sef 'Dyn a drenga, a pha le y mae?' - Sylwodd fod holl philosophyddion paganaidd y byd wedi methu cael allan y gwreiddioì achos o farwolaeth, ac y buasai eto yn guddîedig oddiwrth bob llygaid oni buasai y Gair sanctaidd. Dygodd fywyd ac anllygredigaeth i oleuni. Safodd yn wrol uweh ben y bedd, er ei fod a'i safn yn llydan agored, gan orchymyn iddo beidio ymffrostio, oherwydd iddo allael tynu ein cyfaill ieuangc i'w safn, oblegyd mai mantais a gawsai arno - ei fod wedi ei dynu ef i lawr mewn gwendid, ond am iddo gofio y gorfydd arno ei roddi ef i fyny mewn nerth. Os ce'st di ef i lawr yn gorff anianol, cofia y bydd yn rhaid i ti ei ro'i i fyny yn gorff ysbrydol.
Clefyd Mr. Williams, yn ôl tystiolaeth amryw feddygon a ymwelsant âg ef, oedd y darfodedigaeth,