MRS. ELLEN CHARLES. NELSON, NEW YORK.
Bu farw Mrs. Ellen H. Charles Hydref 20fed, 1900, yn 80 mlwydd, 1 mis a 22 o ddyddiau oed.Ganwyd hi yn Ty'n y Graig, plwyf Rhiw, Sir Gaernarfon. Merch ydoedd i William a Sarah Hughes.
Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i rhieui pan yn dair oed, ac ymsefydlasaut yn mhlwyf Trenton, swydd Oneida. Yn mheu tua dwy flyuedd symudodd y teulu i Steuben, a pbrynasant ffarm yno, ac yno y buont hyd ddiwedd ei hoes.
Yr oedd yr ymadawédig yr henaf o saith o blant. Bu farw ei thad pan oedd hi yn 19 oed, a'i mam yn ddiweddarach. Hefyd mae dau frawd a dwy chwaer iddi wedi ei rhagflaenu. Mae ei dau frawd arall yn byw yn yr hen gartref yn Stenben eto - Robert W. Hughes a Rees W. Hughes.
Ymunodd yr ymadawedig â chrefydd pan yn 20 oed. Derbyniwyd hi yn aelod o eglwys Annibynol Steuben gan Dr. Everett. Yn fuan ar ôl hyny symudodd i Utica, lle yr arhosodd am dair blynedd. Yna symudodd i New Haven. Bu yno am dair blynedd, ac yna daeth yn ôl i Utica.
Chwefror 2ail, 1852, ymunodd mewn priodas gydag Evan D. Charles o'r un lle. Gweinyddwyd yn y briodas gan y Parch. Evan Griffith, gweinidog yr eglwys Annibynol yn Utica. Yn mis Mawrth canlyno1, symudasant i Nelson, swydd Madison. Ymunodd a'r eglwys yn Nelson ar unwaith, a bu yn aelod ffyddlon hyd ddiwedd ei hoes.
Ganwyd iddynt ddau o blant, John D. a Sarah E. Charles. Bu farw Sarah cyn bod yn dair oed, a John pan yn 28 oed.
Gellir dyweyd am ein chwaer ei bod yn ddysgybl cywir i Iesu Grist. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen, a darllenodd y Beibl drosodd lawer iawn o weithiau, a thrysorodd lawer o hono ar ei chof. Yr oedd yn hoff iawn o ganu ac adrodd hen emynau. Canodd yr hen emyn, "Cof am y cyfiawn Iesu," a.y. yn y cymundeb olaf a gafodd, a hyny ar ei gwely angau. Canodd ei hunan, pryd y methodd pawb a'i helpu gan y teimlad dwys oedd drwy y tŷ.
Yr oedd llawer iawn o ragoriaethau yn perthyn i Mrs. Charles. Yr oedd bob amser yn barchus iawn o weinidogion y Gair a bu llaweroedd o honynt yn derbyn ei charedigrwydd o dro i dro pan ar ymweliad â Nelson. Bu yn ffyddlon iawn dros y ddyledswydd deuluaidd, a chadwodd hi i fyny hyd y diwedd, a sugnodd lawer o gysur i'w henaid trwyddi. Yr oedd yn meddu ar addysg mwy na'r cyffredin o'r rhai oedd yu cydoesi â hi. Ysgrifenodd lawer i'r Cenhadwr flynyddoedd yn ôl, a chyfansoddodd lawer o farddoniaetb rhagorol.
Dyoddefodd ei chystudd yn dawel am tua thair wythnos, a hunodd yn dawel a diofn, yn mreichiau ei gwaredwr. Gadawodd ei pbriod yn 80 oed i alaru ei golled ar ei hol. Caffed yr hen frawd gymorth i gyfeirio ei olwg i fynu at ei Dduw ac i ymddiried yu Marnwr y gweddwon, a diddaner ef a dyddanwch yr ysgrythyrau.
J. O. J.