MR. JOHN CLOSS, CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Son of : Robert Closs 1803-1872 and Ellen Evans Closs 1810-1861.Wisconsin County History and Findagrave.
MR. JOHN CLOSS, CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Racine, Wisconsin, Ebrill 28ain.Bore Sul yr 22ain, bu farw John Closs, yn 61 mlwydd oed. Cafodd ymosodiad o'r parlys y nos Fercher blaenorol, ac aeth yn anymwybodol yn ddioed, a pharhaodd hyny hyd nes y bu farw. Yr oedd wedi cael amryw ymosodiadau o'r un afiechyd o'r blaen yn ystod y blynyddoedd diweddaf, ac yr oedd hyny wedi anmharu ei barabl a'i gerddediad.
Daethai ei dad John Closs a'i deulu yn fore i ardal Welsh Prairie, ac yr oedd yn wr blaenllaw a dylanwadol gyda phob symudiad. Ystyrid ef yn gerddor da, a'r un modd ei blant. Ychydig o flynynyddoedd sydd er pan y daeth Mr. Closs i Racine. Yr oedd yn ddyn rhadlon a chyfeillgar, ac yn barchus gan ei gyfeillion a'i adnabyddiaeth.
Gadawodd weddw, mab a merch i alaru ar ei ol, yr olaf yn analluog i fod yn yr angladd o herwydd gwaeledd mawr.
Caed gwasanaeth crefyddol yn y ty cyn cychwyn bore y 23ain, y Parchn. Dr. R. T. Roberts a Thomas Evans yn cymeryd rhan.
Daeth nifer lluosog yn nghyd ac ystyried fod pawb mor brysur. Cymerwyd, ei weddiillion i Cambria, i'w claddu yn mysg ei geraint a'i hen gydnabod.
Y Drych Mai 3ydd, 1900.
MR. JOHN CLOSS, CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Ergyd ar ol Ergyd o'r Parlys yn Profi yn Angeuol i Un o Gymry Parchusaf Wisconsin.
Am 10 o'r gloch bore Sul, Ebrill 22ain, yn Racine, Wisconsin, bu farw John Closs, yn 62 mlwydd a thri mis oed.Ganwyd ef yn Ty'nllon, ger Llanberis, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Medi 17eg, 1838. Ei rieni oeddynt Robert ac Ellen Closs. Yr oedd yn un o ddeuddeg o blant. Ymfudodd ei rieni gyda phedwar o blant i'r wlad hon yn Gorphenaf, 1845, pan oedd John ychydig gyda saith mlwydd oed, ac ymsefydlasant yn ardal Seion, Welsh Prairie, Wisconsin.
Collodd John ei fam, tua 39 mlynedd, yn ol, a'i dad un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach. Mae y ddau wedi eu claddu yn mynwent Cambria.
Ionawr 6ed priodwyd John Closs gyda Miss Jane Roberts, Glan y Gors, yn ardal Carmel, Welsh Prairie, Wisconsin, ac aethant i gartrefu ar ffarm o'r enw Bryntirion yn ardal Seion, Welsh Prairie, Wisconsin. Ganwyd iddynt un bachgen a dwy eneth. Bu un o'r genethod farw yn ei mabandod; mae y ferch arall, Ida Closs, yn briod gyda Morris Jones, Racine, Wisconsin. Cartrefa Jesse Closs yn ardal Welsh Prairie, Wisconsin. Tua naw mlynedd yn ol cafodd John Closs ei daro a'r parlys. Dwy flynedd yn ddiweddiarach tarawyd ef eilwaith, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar ei barabl. Pum mlynedd yn ol symudodd ef a'i briod i Racine i fyw.
Tua 10 o'r gloch nos Fercher, Ebrill 18fed, tarawyd ef y drydedd waith gan y parlys, a bu farw 10 o'r gloch bore y Sabboth dylynol. Am 11 bore Llun, yn ei gartref yn Racine, cynaliwyd gwasanaeth angladdol cyn cychwym y corff tua Cambria, Wisconsin., pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Roberts ac Evans. Cynaliwyd gwasanaeth angladdol am un o'r gloch prydnawn dydd Mawrth yn nhy ei frawd Robert Closs, a'i chwiorydd, yn Cambria pryd y gweinyddwyd, gan y Parchn G. Griffiths, Columbus; R. F. Jones ac R. M. Williams, Cambria.
Claddwvd ef yn nghladdfa y teulu yn mynwent Cambria. Gofalwyd am y canu yn dra phwrpasol, fel arfer, gan M J. Rowlands, yn cael ei gynorthwyo gan gantorion y cylch.
Yr oedd John Closs yn un o hen sefydlwyr Welsh Prairie, ac yn un a berchid yn fawr gan, bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn ddyn tawel a llednais ei ysbryd, ac yr oedd yn siriol, cymwynasgar a charedig fel cymydog. Yr oedd ar hyd ei oes yn hoff iawn o ganu. Nid yn aml y cyfarfyddid a'i debyg fel baswr.
Fel y sylwai un o'r brodyr yn ei angladd. "Canodd lawer ar ganiadaeth cysegr Duw yn ystod ei fywyd."
Gadawodd i alaru eu colled ar ei ol briod un mab sef Jesse Closs, Cambria, un ferch. sef Mrs. Morris Jones, Racine (yr hon gafodd ei lluddias gan waeledd i fod yn angladd ei thad), dau frawd, sef Robert a Thomas B. Closs, Cambria, yn nghyd, a phedair o chwiorydd, sef Elizabeth, Ann a Jemima Closs, Cambria, a Mrs. Robert Thomas yn ardal Jerusalem, Welsh Prairie.
G. Griffiths.
MR. JOHN CLOSS, CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Nos Lun daethpwvd a gweddillion John Closs o Racine, i Cambria i'w claddu. Yr ydooedd y gwasanaeth am un o'r gloch dydd Mawrth, yn nhy ei frawd a'i chwiorydd yno.Hyd ychydig flynyddau yn ol, arferai ef fyw ar ei ffarm yn y gymydogasth hon. Yr ydoedd John Closs yn faswr ardderchog, yn feddianol ar lais clir, ystwyth, cwmpasog, a mor o beroriaeth ynddo; a gellir dywedyd am dano fel y dywedwyd am Haydn a Mozart, nis gallai anadlu ond peroriaeth. Yr ydoedd yn ganwr er yn blentyn; oafoddi bib i ganu gan ei Greawdwr nad oes un o bob miliwn yn ei chael. Yr ydoedd yn canu alto yn y cor yn wyth oed, a gwledd o'r fath oreu fyddai ei glywed yn rhedeg dros lithreni corawdau treithgarol Handel.
Ni chlywais neb fel ef yn gallu canu bass, yr "Haf." Hefyd yr oedd yn garolwr diguro. Byddai yn arfer dyfod i'n ty ni ar ol y moddion nos Sul i ganu, a byddem yr cael rhyw nefoedd fechan gydag ef yn canu anthemau a thonau ar derfyn y Sabboth yn aml iawn. Bellach gorphwysed yn dawel hyd udganiad udgorn Duw.