MRS. ELIZABETH DAVIES. PRION, WISCONSIN.
MRS. JOHN DAVIES, PRION, WISCONSIN . Ganwyd Mrs. Elizabeth Davies ar fferm o'r enw Ty'n Rhos , Plwyf Llanarmon, Sir Gaernarfon, Cymru, Mai 14 , 1854 , yn ferch i William ac Elizabeth Prichard teulu crefyddol.Priododd gyda John Hnghes, saer coed, ac aethant i fyw yn Penygroes, Plwyf Llanllyfni, ac yn aelodau eglwysig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nantlle . Bu farw ei phriod wedi byr gystudd, yn 1880, gan ei gadael i ofalu am dri o blant - Annie Owen a William.
Daeth i America yn haf 1884 gyda'i chefnder , Ebenezer Williams, Oshkosh, Wisconsin . Priododd gyda John Davies, Rhagfyr 31ain, 1885, a ganwyd iddynt Lydia, Eslie ac Elizabeth.
Un garedig, ymdrechgar, a gwir grefyddol oedd ein chwaer, a bu farw yn ddedwydd, Ebrill 18ed, 1900, cyn cyraedd ei 46 mlwydd oed. Claddwyd hi yn barchus iawn y dydd Sadwrn canlynol, pryd y trefnid yr orymdaith gan Mri. Owen Morgans ac Owen Hughes; y cludid ei harch gan Mri. T. J. Davies, Albert D. Jones, Watkin V. Jones, Caleb Lewis, David N. Lloyd, a Josiah Roberts; ac y gweinyddid gan y Parchn. J. R. Johns, Randolph, E. G. Roberts, Bethel, a'i brawd-yn-nghyfraith. Ceir hanes cyflawnach yn Y Cyfaill .