MRS. ELIZABETH EDMUNDS. WISCONSIN.
Tachwedd 13eg, 1900, yn sefydliad Oshkosh, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Edmunds, yn 91 mlwydd oed.Ganwyd hi yn Llanuwchllyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, ac yno y treuliodd foreuddydd ei hoes, ac y derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gan y Parch. Michael Jones; yno hefyd yr ymbriododd a Rowland Edmunds, Trawsfynydd, yn yr un Sir, o'r hwn le y daethant i America yn 1844, gan ymsefydlu yn Cattaraugus, New York, lle buont hyd farwolaeth Mr. Edmunds, Mawrth 18fed, 1887.
Ar ol hyny daeth hi i aros at ei merch, Mrs. Robert J. Williams, Ring, Wisconsin, a chafodd yno gartref cysurus a'r ymgeledd mwyaf yn ei henaint a'i llesgedd.
Ar yr lleg, cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddi yn Soar (A.), lle yr oedd wedi bod yn aelod er pan ddaeth i drigianu yn y gymydogaeth.
Yn mhlith y rhai a adawyd i alaru ar ei hol y mae un mab, Edmund Edmunds, Freedom, Cattaraugus, New York, a dwy ferch, Mrs. Robert J. Williams, Ring, Wisconsin, a Mrs. Griffith Evans, Russell, Kansas.
Gellir dweyd am y chwaer ymadawedig ei bod yn un o garedigion yr Arglwydd, ac yn ddysgybl cywir i Iesu Grist. Hoff destyn ei hymddyddan a'i myfyrdod oedd son am oludoedd gras Duw yn yr efengyl; ac yr oedd yn hawdd gweled wrth fod yn ei chwmni fod ei henaid yn mwynhau gwleddoedd Seion. Darllenai lawer ar y Beibl tra y caniatawyd gan ei golwg iddi wneyd hyny, ac wedi methu gweled i'w ddarllen ei hun, byddai yn cael eraill i ddarllen iddi y llyfr yr oedd mor hoff o'i gynwysiad. Trysorodd gyfran helaeth o air Duw ar ei chof, a byddai yn gwneyd cyfeiriadau mynych at adnodau pan yn ymddyddan am bethau crefydd. Yr oedd yn dwyn delw y gwirionedd ar ei bywyd pur, ac yn gadael argraff ddwfn ar bawb a'i hadwaenai.
T. Z. Evans.