MR. ELLIS EDWARDS. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Hydref 8fed, 1900, ar ôl byr gystudd, bu farw Ellis Edwards, Cambria, Wisconsin, yn 54 mlwydd oed.Genedigol ydoedd o Talybont (y Parc), ger y Bala, Gogledd Cymru, a mab i Mrs. Robert Williams o'r lle hwn a'i phriod cyntaf.
Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1846, pan oedd yn dri mis oed gyda'i rieni, a bu yn y cylchoedd hyn hyd ddydd ei farwolaeth.
Nid ydoedd erioed o gyfansoddiad cryf, ac ymddengys na ddaeth yn hollol iach wedi iddo gael y pneumonia tua thair blynedd yn ôl. Ei afiechyd olaf ydoedd congestion of the lungs.
Yr oedd yn gymeriad a hoffid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai ar gyfrif ei hynawsedd a'i wyleidd-dra. Yr oedd bob amser yn ufudd i wneyd ei ran gyda chrefydd, ac yr oedd y gwaith da yn agos at ei galon bob amser.
Fel y çanlyn yr amlygodd ei gyfaill W. W. Jones ei deimlad ar ei ol:—
Dilwgr astud, loew Gristion - amlwg
Mewn symledd arferion,
Diwyd frawd, di-wawd ei fron,
Oedd, a gwylaidd o galon.
Cynesol cai enw Iesu-'n ei fron
Ddi-frad ei fawrygu
Ymgnawdoliad, canad Duw cu -
Ac hyn oedd ei destyn canu.
Cafodd angladd lluosog. Gwasanaethwyd yn addoldy y M. C, Cambria, yn yr hon eglwys yr oedd yn aelod ffyddlawn, gan yr ysgrifenydd a'r brodyr Morgans, Cambria, a Johns, Randolph.
J. O. P.