MR. HUGH EDWARDS. WEST PULLMAN, CHICAGO.
Nos Fercher, Mawrth 28ain, bu farw Hugh Edwards, plastrwr, genedigol o ymyl y Bala, Meirionydd.Yr ydoedd dros 70 mlwydd oed.
Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn Mount Hope Cemetery ger y lle hwn.
Mae iddo chwaer yn Liverpool, a brawd yn Llandudno o'r enw Daniel Edwards.
Yr ydoedd yn byw wrtho ei hunan, a bu farw yn ddisymwth o glefyd y galon.