MR. RICHARD G. EDWARDS. PEN ARGYL, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
ANGEU SYDYN ROBERT G. EDWARDS.
Pen Argyl, Pennsylvania, Tachwedd 26ain, 1900.Dydd Iau yr 22ain cyfisol, tra yr oedd Richard Edwards, mab Robert a Kate Edwards, neu fel y gelwir ei dad, Robert Griffiths, 'Rhen Bark, Bethesda, Gogledd Cymru, yn dylyn ei waith yn chwarel yr Albion, cyfarfu a'i ddiwedd mewn modd tra sydyn. Yr oedd un o'i oruchwylwyr yn tyllu twll i osod pin neu beg i ddal pipan y pwmp, a thrwy ei fod yn rhy fyr aeth Richard G. Edwards i'w le, a hyny o'i fodd. ond ni fu yno ddeng mynyd cyn i gareg ddod i lawr a'i daraw yn ei ben, gan ei wneyd yn hollol anymwybodol am yr awr a haner olaf o'i oes. Syrthiodd o ben yr ystol, ar yr hon y safai, dyfnder o tuag ugain troedfedd.
Gellir dweyd fod yr ymadawedig yn ddyn ieuanc rhinweddol, ac yn hynod o barchus gan bawb a'i hadwaenai.
Daeth lluaws yma o Slatington a Danielsville, Wind Gap a Bangor, i'w gladdedigaeth y Sul canlynol; a chafodd y cynhebrwng mwyaf a fu yn yr ardal hon.
Trodd y Red Men yn un corff, fel yr oedd y capel yn orlawn - tua 1200 o bobl i mewn ac amryw allan o ddiffyg lle.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. G. W. Green (M. E.), yr hwn a dderbyniasai Richard Edwards yn aelod o'i Eglwys. Y mae yma gydymdeimlad dwfn a Robert Griffith a'i briod a'r holl deulu.
O. T. PARRY.