MRS. ANN EVANS. SPOKANE, SPOKANE COUNTY, WASHINGTON.

Bu farw Mehefin 12fed, 1900, yr hen chwaer Ann Evans, yn 73 oed.

Genedigol oedd o ymyl tref Caernarfon. Daeth i'r wlad hon pan tua 9 mlwydd oed.

Yr oedd yn un o sefydlwyr cyntaf Welsh Prairie, Wisconsin; yr oedd yno cyn i'r Parch. William Jones, Llanllyfni, ddyfod yno.

Priododd a Lewis Evans, un o fechgyn Penal, Sir Feirionydd. Bu ef farw tua thair blynedd yn ol yn Spokane, lle mae eu mab David R. Evans yn cartrefu.

Bu Lewis Evans yn California yn '49, amser "boom" yr aur, ac wedi dychwelyd i Wisconsin y priododd. Buont yn byw mewn gwahanol fanau yn Wisconsin; ac yn Sacramento Valley, o'r hwn le y symudasant i Williamsburg, Iowa, ac oddiyno yn '93 i Spokane at y mab.

Yr oeddynt wedi casglu cyfoeth lawer. Yr oedd Mrs. Evans yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol dan weinidogaeth y Parch. Wm. Davies un o fechgyn Llandinam, Trefaldwyn, yr hwn ddaeth i'r dref hon o Goleg Yale, ac a sefydlodd eglwys o lleg o nifer, ond yr hon sydd erbyn hyn yn rhifo 200.

Efe oedd yn gwasanaethu yn angladd yr hen chwaer.

Y Drych Gorffennaf 17eg 1900.