MRS. ELEANOR LLOYD EVANS. BERLIN, GREEN LAKE COUNTY, WISCONSIN.

Dydd Gwener, Mehefin 29ain, yn Berlin, Wisconsin, bu farw Mrs. Eleanor Lloyd Evans, yn 84 mlwydd oed, gweddw y diweddar Capt. David Evans o'r U. S. Rev. Service ydoedd.

Daeth y teulu i America o Gaernarfon, yn agos i haner can mlynedd yn ol, gan ymsefydlu yn Berlin, lle yr oedd rhieni a pherthynasau eraill Capt. Evans wedi ymsefydlu yn flaenorol.

Ymdaflodd y Capt. a Mrs. Evans i fywyd rough y pioneers ar eu dyfodiad i'r wlad, er fod y bywyd hwn yn wahanol iawn i'r hyn ag oeddynt wedi arfer ag ef yn ngwlad eu genedigaeth.

Arferai y Capt. hwylio llongau ac agerlongau mawrion i bob parth o'r byd. Ymgymerodd ag amryw anturiaethau wedi dyfod trosodd. Pan dorodd y Gwrthryfel Cartrefol allan, cynygiodd ei wasanaeth i'r llywodraeth, yr hwn a dderbyniwyd. Gwnaeth waith da ar y moroedd a'r llynau, nes y pallodd ei iechyd.

Merch ydoedd Mrs. Evans i Capt. Richard Lloyd, Llywydd y Schooner Abiona, Abermaw.

Yr achos uniongyrchol o'i marwolaeth ydoedd iddi syrthio ar y llawr a thori ei hip; a throdd y ddamwain yn angeuol, gan na allai ei chyfansoddiad ddal y shock.

Gadawodd dri o blant mewn galar dwys ar ei hol, sef David Evans, Ieu., aelod etholedig o Ddeddfwrfa Wisconsin; Richard, ffermwr ger Berlin, a Mrs. John C. Fairweather o'r un lle.

Claddwyd hi Gorphenaf, 1af, yn nhir beddrod teulu y Fucheswen yn nghladdfa brydferth Berlin.
Cyfaill.

Y Drych Gorffennaf 19eg 1900.