MR. GRIFFITH J. EVANS. JAMESTOWN, BOULDER, COLORADO.
Griffith Evans died at Jamestown this morning at 7 o'clock. His death was not unlooked-for, as his physician, Dr. Orfilo Al;len had said yesterday the end was near. Evans, who was known all over the state as "Griff" Evans, was about 70 years old. He has lived in the vicinity of Jamestown some twenty years, and before that lived at Estes Park.He leaves a wife and several children, the youngest about 30 years of age.
His funeral will take place tomorrow afternoon at Jamestown.
The death of Griff Evans recalls his killing of "Rocky Mountain Joim" about 1873 in Estes Park. At the time it created great excitement. The jury, which tried the case, fully exonorated Evans, as "Rocky Mountain Jim," who was under the influence of liquor, came at Evans in such a manner that Evans killed him in self defense. The affair occupies an important part in some of the histories of the state.
MR. GRIFFITH J. EVANS. JAMESTOWN, BOULDER, COLORADO.
Gorphenaf 6ed, 1900, yn Jamestown, Colorado, Griffith J. Evans, yn 70 mlwydd oed.Yr oedd yn ei iechyd a'i hwyliau da arferol ar y 4ydd, ond cymerwyd ef yn wael yn yr hwyr, ac ni bu byw ond am ychydig oriau.
Mab ydoedd i John a Jane Evans, a genedigol o Tan y Foel, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfan. Daethant i'r wlad hon yn 1844, gan ymsefydlu yn mysg y rhai cyntaf yn Welsh Prairie, gerllaw Cambria, Wisconsin, ac yr oedd cartref ei rieni yno yn myned o dan yr enw Plas Gwyn. Bu yn byw yn y cylchoedd hyny am tua 20 mlynedd; ac yn ystod yr amser hwnw y priododd gyda, Miss Jane Owens, Columbus, Wisconsin, yr hon fu yn ymgeledd gymwys yn llawn ystyr y gair iddo am weddill ei oes.
Tua 35 mlynedd yn ol daeth i Colorado, ac wedi aros am beth amser yn Denver, aeth yn 1867 i Estes Park, lle y bu yn byw am rai blynyddau. Pan yno yr oedd ei dy yn gartref arglwyddi o Loegr oedd yn dyfod allan am eu hiechyd, i un o ba rai y gwerthodd ei hawl yn y Park, a symudodd oddiyno i Lyons, yn ystod y 15 mlynedd.
Gadawodd mewn galar ar ei ol ei anwyl briod, pedwar mab, a thair merch, a thri ugain o wyrion. Mae ei blant oll wedi tyfu i'w hoed, a phump o honynt yn byw yn Jamestown, ac y maent wedi bod yn gysur i'w rhieni, ac yn aelodau defnyddiol mewn cymdeithas.
Dydd Sadwrn rhoddwyd y corff i orphwys mewn llanerch ddystaw rhwng y mynyddoedd yn mynwent Jamestown.
Ei Nai.