MRS. JANE EVANS. SPOKANE, WASHINGTON.

Gorphenaf 21ain, 1900. Bu farw Jane Evans, yn 72 oed yn nhy ei mab Richard Richards, 1010 Fourth Avenue, Spokane.

Daeth yma tua dwy wythnos yn ol o Sprague, lle tua 40 milldir o'r ddinas hon, lle y bu hi a'i gwr presenol, Morris Evans, yn cadw y National Hotel am tua 15 mlynedd.

Mae y mab Richard yn swyddfa'r "Spokane Review," papyr dyddiol y ddinas hon.

Genedigol oedd Mrs. Evans o Bangor, Gogledd Cymru, a'i gwr cyntaf o Sir Fon. Erys Mr. Evans a'r unig ferch yn Sprague, yn parhau gyda'r hotel. Y mae brawd iddo yn Waukesha, Wisconsin.

Gwasanaethwyd yn y cynhebrwng gan y Parch. Jonathan Edwards. Cyflwynwyd llawer o flodau ar ei harch. Cafodd angladd anrhydeddus a lluosog. Daeth llawer o Sprague, gan ei bod mor adnabyddus i dalu y gymwynas olaf iddi. Trodd allan hefyd y Typographical Union er anrhydedd i'r mab, o ba gymdeithas y mae yn perthyn.

Pall-bearers oeddynt David Vineyard, George Price, A. W. Holland a J. J. Burns.

Claddwyd hi yn Greenwood Cemetery.

Y Drych ~ Awst 9fed 1900.