MR. JOHN D. EVANS. MINNEAPOLIS, HENNEPIN COUNTY, MINNESOTA.

In the midst of his great usefulness at home and in church, Mr. Evans was called away very suddenly, July 4th, 1900. He was born at Bangor, North Wales, February 28th, 1847, a son of David E. Evans and his wife, Margaret Evans, who is a sister to "Nicander.” His father, who came to this country in the summer of 1847, was an able singer and composer.

The son also was an able man. He taught school for many years, before he entered on the commission business at Minneapolis. He wrote several interesting articles to the press, and also a very racy chaptər on “Public Schools.” in the book, History of the Welsh in Winnebago County, Wisconsin. He was very patriotic, and enlisted against the Rebellion while only seventeen years of age.

As a church member, he was growing in usefulness not only in the Sunday School, but also in the prayer and class meetings. He was fond of studying deep theological questions.

Death came to him when least expected. He left, beside his aged mother, a beloved wife and three children - Haydn, Spencer, and Ebenezer; also a sister, Mrs. Rev. D. E. Evans, and two brothers, W. D. Evans, Bethesda, Oshkosh, and Wynn Evans, Wallace, Idaho.

Y Lamp Medi 1900.


MR. JOHN D. EVANS. MINNEAPOLIS, HENNEPIN COUNTY, MINNESOTA.

Marwolaeth Sydyn Un o Hen Ohebwyr y Drych a Nai i Nicander.

Minneapolis, Gorphenaf 15fed.
Yn sydyn collasom o'n plith drwy angeu wr yn nghanol ei ddyddiau ag oedd o gynorthwy nid bychan i'r achos Cymreig yn mherson John D. Evans, mab y diweddar David E. Evans a Margaret Evans, Oshkosh, Wisconsin, a nai i'r diweddar Nicander, yn 53 mlwydd oed.

Yr oedd yn y capel dydd Sul, Gorphenaf 1af, ac ar 4ydd yn gorff, a'i lenaid wedi myned at yr hwn a'i rhoes.

Ganwyd ef yn Bangor, Gogledd Cymru, Chwefror 28ain, 1847. Pan yn bedwar mis oed daeth i'r wlad hon gyda'i rieni. Aeth oddicartref pan yn blentyn 14 oed, gan wynebu ar y byd yn ei bleserau a'i ofidiau.

Ymunodd a'r fyddin pan yn 17 oed, tua diwedd y gwrthryfel, a gwasanaethodd ei wlad am 9 mis, pryd y galwyd y fyddin o'r maes. Bu yn ysgolfeistr am rai blynyddau yn Iowa a Minnesota. Er nad oedd wedi derbyn fawr o fanteision addysg bore ei oes, manteisiodd ar a gafodd i gyraedd gwybodaeth drwy hunan ddiwylliant i fod yn ysgolfeistr llwyddianus. Gwasanaethai fel aelod ar bwyllgor "Y Wyddorfa," cymdeithas o natur lenyddol, am y tri tymor diweddaf, a byddai bob amser yn ofalus a threiddgar, ac mewn ysbryd teg a heddychol, yn cefnogi neu yn gwrthwynebu unrhyw gwestiwn a gynygid i ymdrin arno yn y gymdeithas.

Yr oedd yn bleidiwr selog i'r iaith Gymraeg, er iddo adael ei wlad enedigol yn faban bach, heb erioed weled golygfeydd prydferth a rhamantus Cymru. Mynai nad oedd dim yn lluddias i gadw yn fyw y Gymraeg yn mhlith Cymry y wlad hon, a llefara ei fywyd hyn fel llawer un arall sydd wedi eu geni yma.

Efe oedd arolygwr yr ysgol Sabbothol, ac yma yr oedd yn ei elfen; ond fe'i galwyd oddiwrth ei waith cyn iddo brin ddechreu ar ei dymor. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ond ei brif lyfr oedd y Beibl, ac yr oedd yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau, a'r Sabboth olaf y bu yn yr ysgol derbyniodd ail wobr, sef cofiant John Jones, Talysarn am ei ragoriaeth yn y maes llafur flwyddyn ddiweddaf, yn yr arholiad ar Iago, yn nghylch Cymanfa Minnesota.

Rhoddwyd ei weddillion yn mynwent Layman, dydd Gwener, Gorphenaf 6ed, pryd y gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. O. Evans.

Gadawyd i alaru ar ei ol briod hoff, tri o blant, Hayden, Spencer ac Ebenezer, dau o frodyr, William Evans, Oshkosh, Wisconsin, a Wynn Evans, Phoenix, British Columbia, un chwaer, Margaret, priod y Parch. D. E. Evans, arolygwr Goodwill Indian School, South Dakota, a mam oedranus yn 85 mlwydd oed.
GAN D. ELLIS WILLIAMS.

Y Drych Gorphenaf 26ain, 1900.