MRS. MARGARET EVANS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 29ain, 1900, yn Remsen, New York, Mrs. Margaret Evans, gweddw John Evans. Byr ond caled fu ei chystydd, ac yr oedd ei marwolaeth yn annysgwyliedig, hyd yn nod i'w chymydogion agosaf.

Ganwyd Mrs. Evans yn Rhosfawr, Pwllheli, Gogledd Cymru, yn 1833. Merch ydoedd i Robert ac Ellen Jones.

Tua 18 flynedd yn ol ymfudodd hi a'i theulu wlad hon, ac yn ystod y fordaith claddasant eu mab William yn y Werglodd. Ymsefydlasant yn yr ardal hon, lle mae y plant yn bresenol yn ddinasyddion parchus a llwyddianus.

Bu ei phriod farw tua dwy flynedd yn ol, ac yr 31ain cynfisol, daearwyd hithau wrth ei ochr yn hen fynwent Pen-y-Graig. Cafodd gladdedigaeth hynod barchus, ac er gerwindeb yr hin trodd hen gymydogion a'r adnabyddion allan yn lionaid capel. Canwyd yn ardderchog gan gor eglwys Bethel dan arweiniad y siriol a'r galluog Charles. F. Everett; a rhoddwyd y deyrnged fwyaf Cristionogol i goffadwriaeth parchus y chwaer gan y Parchn. Dr. Williams a Jenkins, Remsen, ac R. M. Jones, Alder Creek.

Enwau y plant yn eu galar ydynt Mrs. William Rowlands, East Steuben; Mrs. Richard Williams, Utica; Hugh a John o'r lle hwn ac Evan o Remsen.

Nawdd Duw drostynt hyd yn nheyrnas nef. Dymunir i bapyrau Cymru gofnodi yr hanes.
R.M.

Y Drych ~ Tachwedd 15fed, 1900.