MRS. MARY EVANS, MANKATO, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
MRS. EVAN H. EVANS, MANKATO, MINNESOTA. Boreu Llun, Mawrth 5ed, 1900, yn ei phreswylfod ar Locke Street, Mankato, bu farw yr hen chwaer anwyl Mrs. Evans, yn 83 mlwydd oed. Rhyw bythefnos cyn yr amgylchiad cafodd gwrs o'r grip, yr hwn a effeithiodd yn fawr arni, ondi yr oedd wedi troi ar wella, ac argoelion ei bod i gael adferiad. Ond dydd Iau, Mawrth 1af, cafodd ergyd o'r parlys. Diffrwythodd un ochr iddi, ac effeithiodd ar ei lleferydd,, ac yn y cyflwr hwnw, yn amddifad o boen, i'n golwg ni, bu farw mewn tangnefedd.Ganwyd hi yn Gelli Ddraenen, Llanfihangel y Pennant, Meirionydd, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1818. Enwau ei rhieni oeddynt William a Catherine Jones. Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1840, gan sefydlu yn Utica, New York. Yma cyfarfyddodd ag Evan H. Evans, yr hwn oedd frodor o Pennal, rhyw 8 milldir o'i hen ardal enedigol hi. Yn 1844 unwyd hwy mewn priodas gan y diweddar Dr. Rowlands, a byddai hi yn ei dull doniol yn arfer dweyd mai y wedding trip a gawsant hwy oedd myned i'r seiat gyda'r Doctor. Yn fuan symudasant i Emmet ger Watertown, Wisconsin, a thrachefn yn 1855 i Minnesota. Sefydlasant ar ffarm yn South Bend,, yn ymyl hen gapel Seion, a buont ill dau yn gefn i'r achos yn y lle. Bu ef yn flaenor ffyddlawn yn yr eglwys hono am faith flynyddoedd, a bu hithau, yn ei chylch, yn dra charedig a gwasanaethgar i'r achos. Gellir symio i fyny hanes ei bywyd mewn dau air, y cartref a'r eglwys. Ymroddodd, hi a'i holl egni i gynorthwyo ei phriod i ffurfio cartref. Ni bu dau erioed yn fwy llafurus nac yn cyd dynu yn well. Ond tra yn gofalu am y cartref ni foddwyd hi gan orofalon fel ag i anghofio ei dyledswyddiau i'r eglwys. Yr oedd ysbryd crefydd yn llywodraethu y cartref. Gweithiodd lawer diwrnod caled, ond byddai yn gofalu am y moddion. Cafodd llu sydd wedi ei blaenori i'r byd ysbrydol, a llawer sydd eto yn aros, brofiad melus o'i charedigrwydd i'r achos a'i garedigion.
Ganwyd iddynt 6 o blant, sef William, Edward, John, Hugh, John a Catherine. Bu y ddau olaf feirw yn blant. Bu John, yr ail a enwyd felly, farw yn Medi, 1888. Y mae y tri eraill yn fyw, William yn Dakota, Edward a Hugh yn Mankato. Edward, fel ei dad, yn flaenor gyda'r M. C. yn y dref hon, a Hugh yntau yn dylyn yr un ffydd trwy wir ofalu am yr achos.
Yn y flwyddyn 1873 bu Mr. Evans farw, ac yn 1878 symudodd Mrs. Evans i Mankato. Yr oedd yn awr yn byw gyda'i mab a'i merch-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Hugh Evans, y rhai fu yn gofalu am dani gyda thynerwch teilwng hyd ei hymadawiad. Yr oedd Mrs. Evans yn naturiol o duedd lawen a siriol, ac yn mwynhau bywyd. Yr oedd Mrs. Evans yn gymeriad gwir brydferth. Bendithiwyd hi a synwyr cyffredin o radd uchel. Sancteiddiwyd y synwyr naturiol oedd ynddi gan ras Duw, fel yr oedd ei bywyd hirfaith yn berarogl Crist. Bydd ei choffadwriaeth yn fendigedig, nid yn unig gan y plant a fagwyd, ac a feithrinwyd ganddi gyda'r fath ofal, ond hefyd gan bawb a ddaethant i gyffyrddiad agos â hi ac adnabyddiaeth o honi. Mae iddi air da gan y rhai a'i hadwaenai oreu, a chan y gwirionedd ei hun.
Yr oedd yn Galfinaidd o ran ei barn a'i golygiadau, ac yn Buritanaidd fanwl o ran yr ymarferiad. Yr oedd wed'i ei gwreiddio yn nuwinyddiaeth iachus emynau Ann Griffiths a Williams, Panty-celyn, a thrysorodd doraeth ohonynt yn ei chof. Darllenodd lawer ar Eiriadur Mr. Charles, a myfyriai beunydd yn y gair. "Llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni." Llewyrchodd y goleuni dwyfol i'w meddwl hi rhwng bryniau Meirion. Yno y torodd y wawr ar ei hysbryd; parhaodd i gynyddu a chryfhau yn New York, Wisconsin a Minnesota, ac erbyn hyn nid oes amheuaeth yn meddwl neb a'i hadwaenai nad yw wedi cyraedd y meridian tragwyddol. "Ac ni bydd nios yno." Nodwedd brydferth iawn yn ei chymeriad oedd y gwyleidddra a'r gostyngeiddrwydd oedd yn ei hysbryd. Nid oedd ym hoffi rhyw sylw amlwg mewn unrhyw gysylltiad.
Gwyn fyd na chai yr oes sydd yn codi ddeuparth o'i hawydd am foddion gras a'i pharch i'r Sabboth. Ofnai lawer gael ei chaethiwo yn hir gan afiechyd, fel ag i fethu myned i'r cyntedd Gwrandawyd hi yn yr hyn a ofnodd. Cafodd ei symud fel pe heb brofi marwolaeth. Canodd, neu yn hytrach sibrydodd lawer ar yr hen benill
"Dwy aden colomen pe cawn," a.y.
Erbyn hyn mae wedi cyraedd y bryniau tragwyddol, a'i llygaid yn syllu mewn nefoedd o fwynhad ar y person a wasanaethodd mor ffyddlawn, ac y myfyriodd gymaint arno. Yr ydym o bryd i bryd wedi gosod dan y cwrlid yn Minneopa weddillion saint a rhai anwyl, rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt, ond erioed ni roddwyd yno galon burach nag a roddwyd pan osodwyd i orphwys yno weddillion yr hen fam hon. Cafodd angladd lluosog Mawrth 7fed. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn. D. Edwards, W. M. Jones, R. D. Price a W. E. Evans. Canwyd darnau tarawiadol gan y cor. Y Sabboth dylynol traddodwyd pregeth angladdol iddi gan yr ysgrifenydd, seiliedig ar Luc 12: 35, 36. Heddwch i'w llwch. Gwylied angylion arno, a chwythed, yr awelon yn tyner tyner drosto. Rhodded yr Arglwydd ras lawer i'r meibion sydd yn aros i ddylyn ffyrdd eu rhieni, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1900.
MRS. MARY EVANS, MANKATO, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
MARWOLAETH HEN FAM YN ISRAEL.
Mawrth 5ed, yn nhy ei mab a'i merch-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. Hugh Evans, Locke Street, bu farw yr hen fam Mrs. Evans, gweddw y diweddar Mr. Evan H. Evans, diacon yr eglwys Seion.Yr oedd yr ymadawedig yn ferch i Mr. Williams a Mrs. Catherine Jones, Gelliddraenen, Llanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Yn 1840 ymfudodd i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Utica, ac yno yn y flwyddyn 1844 ymbriododd a Mr. Evans. Yn fuan wedi hyn symudasant i Emmett, Wisconsin, ac oddiyno yn 1855 daethant i South Bend, Minnesota, gan ymsefydlu ar fferm.
Yn 1873 bu farw ei phriod. Arosodd hithau gyda'i phedwar bachgen ar y fferm hyd 1885, pryd y symudodd i Mankato, ac yn ddylynol cartrefai gyda'i mab Hugh. Arferai fwynhau iechyd pur dda ar y cyfan. Ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth ymaflwyd ynddi gan yr anwydwst, ond yn fuan ymddangosai fel pe yn araf ymryddhau o'i afaelion, ond dydd Mawrth, y cyntaf, anfonodd angeu un o'i gerbydau arbenig, y parlys, i'w chyrchu adref, yr hwn, er pob ymdrech perthynasau gofalus a meddygon galluog, a'i trosglwyddodd yn ddiogel ar lan y Ganaan wlad.
Gan yr ymddengys cofiant helaethach am dani yn y "Cyfaill" terfynwn gyda nodi fod Mrs. Evans yn gymeriad rhagorol, yn ffyddlon gyda'r moddion cyhoeddus, yn haelfrydig at bob achos da, yn wylaidd a chrefyddol ei hysbryd bob amser.
Gweinyddwyd yn ei hangladd lluosog a pharchus gan y gweinidogion canlynol: Parchn. D. Edwards, W. Machno Jones ac R. W. Price (W.), yn nghyd a'i gweinidog, y Parch. W. E. Evans, yr hwn hefyd a draddododd bregeth angladdol fore Sabboth dylynol.