MR. RICHARD L. EVANS. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.

Awst 6ed, 1900.
Dydd Mercher, Gorphenaf 25ain, bu farw yn y ddinas hon, Richard L. Evans, ar ol dyoddef cystudd maith a phoenus o gydgasgliad amrywiol anhwylderau, yn ei 57 mlwydd oed.

Genedigol ydoedd o Llanegryn, Meirionydd, Gogledd Cymru. Symudodd i Lundain, ac yn Ebrill 15, 1870, priodwyd ef gan y Parch. David Oliver, gydag Ann Jones, genedigol o Tywyn, Meirionydd. Ar y 26ain o Mai yr un flwyddyn, ymfudasant i Canada, a buont byw yn Toronto, hyd 1872, pryd y daethant i Racine, ac yma y maent wedi byw hyd yn awr.

Yr oedd Richard L. Evans yn gymeriad neillduol o hoffus, yn feddianol ar bersonoliaeth ddymumol, yn siriol a chymdeithasgar bob amser. Yr oedd o dymer hynaws ac addfwyn, ac yn neillduol felly yn ei deulu. Yr oedd dweyd geiriau cas neu angharedig yn groes i'w anianawd. Yr oedd vn weithiwr diwyd a didor, a thebygol yw, ddarfod i'w ymroddiad llwyr a ffyddlon i'w oruchwylion fod yn foddion i ddwyn afiechyd i'w gyfansoddiad. Er yr holl boenau a ddyoddefodd, yr oedd yn amyneddgar a dirwgnach. Gwasanaethodd ei briod arno gyda'r ffyddlondeb mwyaf am amser hir.

Bu yn aelod dichlynaidd gyda'r Annibynwyr am ysbaid maith.

Claddwyd ef o'i gartref ar y 25ain cyfisol, pryd y dygwyd y gwasanaeth crefyddol yn mlaen gan y Parch. Henry Davies (A.), Bangor, yr hwn oedd yn llenwi pwlpud y Parch. Thos. Evans ar y pryd, a'r Parch. R. T. Roberts (T. C.), a chanodd pedwariaid, sef Misses Maggie Jones, Edith Rowlands, a Mri. Griff. Hughes ac Howell Jones - yr holl wasanaeth yn Saesonaeg. Yr oedd yr arwyddion o barch i'r ymadawedig, mewn blodeu-glymau yn lluosog a hardd neillduol.

Yr oedd Mr. Evans yn aelod o gymdeithasau y Seiri Rhyddion a'r Loyal League.

Gadwa weddw, un mab, John R. Evans, a thair merch, sef Nellie, Winifred, ac Elizabeth mewn hiraeth ar ol priod a thad addfwynaf. Mae iddo hefyd ymla un brawd. sef Evan, yr hwn a deimla yn chwith iawn ar ol ei anwyl frawd.
T. LI. W.

Y Drych ~ Awst 16eg 1900.