MR. WILLIAM E. EVANS. PHILADELPHIA, PENNSYLVANIA.

Tachwedd 15fed 1900, yn 60 oed, o'r parlys, William E. Evans, 2232 North 18th Street., Philadelphia, Pennsylvania.

Claddwyd ei weddillion prydnawn yr 17eg yn mynwent Fairhill, Parch. J. ns o'r eglwys Gymreig yn gweinyddu.

Un o blwyf Llaniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru oedd. Daeth y teulu i'r wlad hon pan nad oedd ef ond pedair oed. Aethant i fyw i ddechreu i ardal West Bangor, Pennsylvania. Yn mhen amser cawn hwy yn byw yn Slatington, Pennsylvania, ac yno y priododd gwrthrych ein cofiant gydag Annie Jones, merch y diweddar Abel Jones o West Bangor. Wedi bod yn byw yno am lawer o flynyddau, symudasant i Bala, Kansas, lle y buont yn amaethu am yn agos i saith mlynedd. Yna daethant i'r ddinas hon. a gweithiai yma fel stone cutter, hyd nes yr analluogwyd ef gan ei afiechyd.

Ganed iddo ef a'i briod ddeg o blant, o ba rai y mae pump wedi marw, a phump yn fyw, y rhai sydd, yn nghyd a'u mam, mewn galar dwfn ar ei ol, a chydymdeimlwn a hwy yn eu trallod. O'r plant sydd yn fyw y mae y ddwy ferch ieuengaf gartref gyda'i mam, a'r henaf wedi priodi gyda deintydd ac yn byw yn Costa Rica, South America. Y mae dau o'r meibion hefyd gartref, un o honynt yn gweithio yn store Baily, Banks and Biddle ar Chestnut Street, a'r llall yn ysgolfeistr ar bwys y ddinas, ac yn dod yn mlaen yn dda. Bywyd symudol yw bywyd y mab arall, ac wedi gweled llawer o'r wlad yma, gan mai commercial traveller yw dros un o firms y ddinas yma. Y maent oll yn blant da, ac o gysur mawr i'w mam sydd wedi ei gadael yn weddw.

Yr oedd y diweddar Mr. Evans yn ddyn tawel, diymhongar, caredig, ac yn hynod ddiabsen am bawb, ac yn un a fawr hoffid gan ei holl gydnabod, yn arbenig gan y rhai a'u hadwaenent oreu.

Y mae iddo amryw berthynasau yn y wlad hon, ac yr oedd yn gefnder i'r Parch. William Ryle Davies, Llundain.
J. R. Evans.

Y Drych ~ Rhagfyr 27ain 1900.